Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hefyd yn agored i'r achos eto. Dyma y drysau cyntaf a agorwyd i'r efengyl yn y parthau hyn."

Crybwyllwyd droion am Maes-yr-afallen, fel ffynonell o'r hon y daeth y goleuni i lewyrchu i wahanol ranau y cwr yma o'r wlad. Hwyrach mai buddiol fyddai gair o eglurhad am gysylltiad crefydd â'r lle hwnw. Rhwng 1769 a 1777, yr oedd y Parch. Benjamin Evans yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Llanuwchllyn, ac arferai ddyfod i bregethu i blwyf Llanaber. O gylch y flwyddyn 1770, cofrestrodd gegin amaethdy Maes-yr-afallen i bregethu ynddi. Cadben William Dedwydd, gwr genedigol o Abergwaen, Sir Benfro, oedd perchenog a phreswylydd yr amaethdy hwn, ac yr oedd efe yn ewythr, brawd ei mam, i wraig Mr. Benjamin Evans. Yn flaenorol i hyn, ymbriodasai y Cadben Dedwydd âg aeres y Gorllwyn, gerllaw yr Abermaw, ac yr ydoedd yn wr crefyddol a dylanwadol. Cysylltiad perthynasol, yn ddiameu, a ddygodd weinidog anturiaethus Llanuwchllyn i gysylltiad â'r lle, a bu hyny yn foddion, yn llaw Rhagluniaeth Ddwyfol, i ledaenu crefydd yn yr ardaloedd cylchynol. Yn y flwyddyn 1777, ymadawodd Mr. Benjamin Evans o Lanuwchllyn i Hwlffordd, a bu yr Annibynwyr am o gylch 24 mlynedd wedi hyn heb neb yn llafurio yn yr ardal. Ond ymddengys y byddai y Methodistiaid yn pregethu yn achlysurol yn y lle. Modd bynag, gan fod yr ardal hon mewn congl neillduedig o'r wlad, a'r tŷ hefyd wedi ei gofrestru fwy nag ugain mlynedd cyn i'r Methodistiaid ddechreu cofrestru eu tai, cafwyd yma lonyddwch i addoli Duw mewn adeg foreuol, a bendithiwyd y cynulliadau crefyddol i bell ac agos.

Yn Ngwanwyn y flwyddyn 1863, cynhaliwyd cyfarfod llenyddol yn Nhowyn. Un o'r testynau ar gyfer y cyfarfod oedd, "Dechreuad a Chynydd Ymneillduaeth yn Mhlwyf Towyn, Meirionydd." Y buddugwr ar y testyn oedd gwr ieuanc, genedigol o dref Towyn, yn awr y Parch. D. C. Jones, Abergwili, Sir Gaerfyrddin. Y mae ef yn ŵyr i ysgogydd cyntaf Ym-