Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nhowyn a Pen-y-parc. Y gyfrinach grefyddol yn Mhen-y-parc fu dechreuad yr achos gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Bryncrug, sydd wedi dyfod erbyn heddyw (1863) yn un o'r lleoedd mwyaf blodeuog yn y plwyf."

Ysgrifenwyd yr uchod, fel y crybwyllwyd, yn 1863, o dan amgylchiadau tra manteisiol i wybod yr hanes o'r cychwyn cyntaf. Mae y modd y dechreuodd yr achos yn Nhowyn yn weddol eglur oddiwrth y cofnodion hyn; yr unig goll ynddynt ydyw, nad yw y dyddiad y cymerodd y digwyddiadau le yn cael eu nodi. Un arall yn meddu manteision rhagorol, os nad y manteision goreu oll i wybod hanes yr ardaloedd, ydoedd John Jones, Pen-y-parc. Dywed ef fod Methodistiaeth yn ddyledus i raddau am ei gychwyniad yn ardaloedd Towyn, i hen wraig o'r enw Catherine Williams, yr hon a gadwai ysgol ddyddiol. Ychydig o hanes y wraig hon sydd ar gael; yn unig hysbysir ei bod yn yr ysgol ddyddiol yn egwyddori y plant dan ei gofal yn elfenau crefydd, a darfu iddi trwy hyny barotoi llawer ar ei hysgolheigion i dderbyn yr efengyl, ac i goleddu syniadau mwy tyner na phobl yr oes hono, am grefydd a chrefyddwyr. Hysbysir hefyd ddarfod i amryw o'r genethod fu'n cael eu haddysgu ganddi ddyfod yn "famau yn Israel," a bu ei meibion yn wasanaethgar i gynydd Methodistiaeth yn y fro wedi ei chladdu hi.

Yr ydym yn gweled, bellach, trwy yr amlinelliad blaenorol o'r hanes, pa fodd y dechreuodd yr achos yn ardaloedd y parthau hyn, a pha fodd yr ymledaenodd crefydd trwy yr holl wlad, o Gorris i lawr i Lwyngwril. Ni wyddis i sicrwydd, ac nis gellir gwybod, pa flwyddyn y sefydlwyd eglwys ymhob ardal. Ond y mae hyn yn eglur, fod yr efengylwyr Methodistaidd wedi bod yn pregethu ar hyd a lled y wlad, yn yr ardal hon a'r ardal arall, weithiau ar lân y môr, weithiau yn nghysgod gwrychoedd, pryd hyn yn nghysgod deisi mawn, bryd arall ar y ffordd fawr, dros ysbaid deng mlynedd o amser, o 1780 i 1790, heb fod crefydd eto wedi cael cartref