Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arhosol yn odid fan. Deuai pregethwyr heibio yn awr a phryd arall, ac yn y dechreu ddim ond unwaith neu ddwy yn y flwyddyn, ac yn y manau y gwyddid fod rhyw rai yn tueddu at wrando, a chynhullid ychydig ynghyd i gadw odfa. Os byddai rhywrai, mewn rhyw fan wedi cael blas ar wrando, ceisid pregethwr i ddyfod i'w hardal, er mwyn i'w cymydogion hefyd gael clywed y newyddion da. Ac weithiau ceir y byddai crefyddwyr yn dyfod gyda y pregethwr, fel y gwelir eu bod yn dyfod gyda John Ellis, o'r Abermaw i Lwyngwril. Ond o'r flwyddyn 1790 ymlaen, am y ddwy neu dair blynedd nesaf, yr oedd y disgyblion wedi ymffurfio yn eglwysi bron ymhob man. Y mae y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yn coffhau yn ei Ddydd-lyfr am 1793 yr hyn a ganlyn,—" Cefais flaenoriaid y society yn Nolgellau yn dirion iawn, a byddwn yn cyfeillachu llawer â hwy. Byddwn yn arfer myned gyda hwy i gadw cyfarfodydd gweddiau, a societies, i Abercorris, Cwrt, Llanerchgoediog, Bwlch, Llwyngwril, Tŷ-Ddafydd (yn awr Sion.)"

Peth tra hynod ydyw fod ardaloedd rhwng y Ddwy Afon, llain o wlad sydd ar y terfyn rhwng y Gogledd a'r Deheudir, wedi cael eu gadael mor hir heb freintiau yr efengyl. Gwelir weithiau y cymylau yn cario y gwlaw heibio ambell ran o'r wlad, ac yn ei dywallt ar y rhan arall fyddo yn ei hymyl. Felly yma, aeth y Diwygiad Methodistaidd heibio o'r naill du, cariwyd y newyddion da am yr Iachawdwriaeth a fydd byth, o'r Deheudir i'r Gogledd, gan adael y cymydogaethau hyn yn amddifad o honynt am ddeugain neu haner can' mlynedd; ac nid oes llawer o sicrwydd fod yr un eglwys wedi ei sefydlu ynddynt hyd flwyddyn marwolaeth Rowlands, Llangeitho. Y mae traddodiad ddarfod i Morgan Llwyd, o Wynedd, broffwydo gan' mlynedd cyn toriad gwawr y diwygiad, pan wedi cael ei atal i bregethu yn Machynlleth, y byddai i'r efengyl adael y dref hono am amser hir, cyn y byddai i'r plant oedd yno yn chwareu ac yn dringo'r coed, ddyfod i oedran gwyr. Cadarn-