Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hawyd ei broffwydoliaeth am y dref ei hun, ac am ranau helaeth o'r wlad tua'r Gorllewin oddiwrth y dref. Mae yn wir hefyd na chafodd y rhanau yma o Sir Feirionydd ddim o ddoniau nerthol cedyrn cyntaf y Methodistiaid. Ni bu Howell Haries, na Daniel Rowlands, na Peter Williams, na Williams Pantycelyn, yn llefaru yma fel y buont yn ysgwyd rhanau eraill o Wynedd. A'r hyn sydd yn rhyfedd hefyd ydyw, fod y deffroad crefyddol wedi dyfod, pan y daeth, o gyfeiriad gwahanol i'r drefn arferol; fe gludwyd y tân o Drefecca a Llangeitho, oddiamgylch trwy y Bala, a siroedd y Gogledd, ac fel pe buasai arno ofn dyfod dros afon Dyfi, daeth yn ol dros afon Mawddach, o Maes-yr-afallen, ac o'r Abermaw. "Mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a'i ffyrdd mor anolrheiniadwy ydynt!"

Rhoddir manylion am bob lle eto, yn y benod ar ffurfiad a chynydd yr eglwysi. Terfynwn y benod hon trwy roddi ychydig grybwyllion am y ddau bregethwr cyntaf yn y dosbarth.

WILLIAM PUGH.—Yr enw wrth yr hwn yr adnabyddid ef, ac yr adnabyddir ef eto yn y wlad hon ydyw, William Hugh, Llechwedd. Saif y Llechwedd ychydig i fyny ar ochr bryn lled uchel, yn wynebu ar Eglwys y plwyf, Llanfihangel-y-Penant, a thua dwy filldir o Abergynolwyn. Ganwyd ef yn Maes-y-llan, Awst 1, 1749. Yr oedd yn fedrus mewn canu Salmau yn eglwys y plwyf cyn bod yn 5 oed. Argyhoeddwyd ef trwy weinidogaeth y Parch Benjamin Evans, Llanuwchllyn, yn Maes-yr-afallen. Dechreuodd bregethu oddeutu y fl. 1790. Bu am ysbaid o amser yn cadw Ysgol Rad, o dan arolygiaeth Mr. Charles. Bu dan erledigaeth fawr, a dirwywyd ef yn 1795 i £20 am bregethu yn ei dy ei hun, a thai pobl eraill. Yr oedd yn gerddor da, ac yn meddu ar lais peraidd, ac am ryw dymor efe a arferai arwain y canu yn Sasiynau y Sir. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, a bu yn ddefnyddiol gydag achos crefydd yn ei ardal ei hun a'r ardaloedd cylchynol. Efe oedd y llefarwr cyntaf oll a gyfododd ymhlith y Methodistiaid yn