Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD IV
YR ERLEDIGAETH YN Y FLWYDDYN 1795

CYNWYSIAD.—Gwrthwynebiad i gofrestru y capelau—Gwedd newydd yr erledigaeth—Tro rhyfedd o erlid gerllaw Towyn—Galw y milwyr allan—Yr erlid yn dechreu yn Nghorris—Gosod dirwy o £20 ar William Hugh, Llechwedd, ac eraill—Y milwyr yn ceisio dal Lewis Morris—Yr achosion crefyddol yn sefyll—Tystiolaeth Robert Griffith, Dolgellau—Chwarter Sesiwn y Bala—Trwydded Edward William, Towyn—Lewis Morris yn pregethu yn Nhowyn—Methu dal yr anifeiliaid yn lanerchgoediog—Effeithiau yr erledigaeth—Barn y bobl am yr erlidwyr—Golwg gyflawn ar yr amgylchiadau.

 HAN hynod a thra phwysig o hanes Methodistiaeth Sir Feirionydd ydyw yr erledigaeth chwerw a gymerodd le ymhen ychydig flynyddoedd ar ol sefydlu yr eglwysi cyntaf rhwng y Ddwy Afon. Bu crefydd yn hir, fel y crybwyllwyd, cyn cymeryd meddiant llwyr o'r rhan hon o'r sir, ond yma y cyfarfyddwyd â'r profedigaethau chwerwaf, am dymor byr, mae'n debyg, o un man yn Nghymru. Gorfuwyd i'r ardaloedd fu yn aros hwyaf heb yr efengyl, ddioddef y goruchwyliaethau trymaf yn herwydd yr efengyl. Cyfeirio yr ydys at yr erledigaeth ffyrnig a gymerodd le yn y flwyddyn 1795. Dechreuodd, mae'n wir, ryw gymaint cyn hyn, ac fe barhaodd rai blynyddau yn ddiweddarach, ond dyma y flwyddyn y cyrhaeddodd ei plwynt uwchaf. Daeth yr erlidwyr allan yn yr erledigaeth hon mewn gwedd newydd —gwedd nad oedd y Methodistiaid ddim wedi cael eu blino ganddynt o'r blaen, sef trwy gymeryd y gyfraith yn eu llaw i gosbi pregethwyr, a'r neb a'u derbynient i'w tai i bregethu. Hyd yr adeg yma, sef oddeutu y flwyddyn 1795, nid oedd neb yn perthyn i'r Methodistiaid yn y Gogledd wedi cymeryd trwydded