Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

—————————————

CYNHALIAD Gwyl Can'mlwyddiant yr Ysgol Sabbothol yn 1885 fu yr achlysur uniongyrchol i ymddangosiad y gwaith hwn. Syrthiodd i ran yr ysgrifenydd i roddi hanes yr ysgol o'r dechreuad, mewn rhan o'r sir, yn yr wyl a gynhaliwyd yn Aberdyfi. Wrth wneuthur ymchwiliadau ar gyfer y gorchwyl hwnw, daeth rhai pethau i'r golwg, a ddangosent yn bur eglur yr angenrheidrwydd am ysgrifenu mewn trefn hanes dechreuad a chynydd crefydd yn yr eglwysi. Teimlid yn awyddus i gael hanes yr Ysgol Sul yn argraffedig. Ac os hanes yr ysgol, paham na cheid hanes crefydd yn ei holl symudiadau?

Y mae yn perthyn i gylch Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd yn awr 60 o eglwysi, ac ni cheir crybwylliad hyd yn nod am enw, o leiaf ddwy ran o dair o honynt yn Methodistiaeth Cymru. Gwir fod llawer o'r cyfryw yn eglwysi lled newyddion, ond y mae amryw hefyd o hen eglwysi heb ddim o'u hanes wedi ei ysgrifenu. Amcan proffesedig yr awdwr yn Methodistiaeth Cymru ydoedd, ysgrifenu HANES CYFFREDINOL, sef prif linellau yr hanes yn y gwahanol siroedd. Ac y mae wedi gwneuthur hyny yn y modd mwyaf canmoladwy. Erys y tair cyfrol a ysgrifenodd yn drysor arhosol o'r fath werthfawrocaf tra parhao crefydd yn Nghymru. Ond gan ei bod yn ymyl deugain mlynedd er pan eu hysgrifenwyd, amlwg ydyw fod llawer o ddigwyddiadau wedi cymeryd lle yn ddiweddarach mewn cysylltiad â chrefydd yn ein plith y dylid eu cadw mewn coffadwriaeth.

Allan o ddeugain o eglwysi oedd yn perthyn i'r rhan Orllewinol o'r sir yn 1850, mae yr hanes am ryw haner dwsin wedi ei gofnodi yn Methodistiaeth Cymru yn lled gyflawn, am y rheswm fod dynion yn perthyn i'r eglwysi hyny ar y pryd, yn fedrus yn y gwaith o ysgrifenu, ac yn cymeryd dyddordeb mawr yn yr hanes a ysgrifenid, y rhai a anfonasant gyflawnder o ddefnyddiau i Mr. Hughes at y gwaith; aethpwyd heibio i leoedd eraill heb gofnodi nemawr ddim am danynt, yn unig oherwydd nad anfonodd pobl y lleoedd ddefnyddiau i'r awdwr.

Cedwid tri pheth mewn golwg wrth ysgrifenu yr hanes hwn.

1. Cofnodi cymaint a ellid gael o hen hanes am yr eglwysi hyny nad oedd dim wedi ei ysgrifenu o'r blaen. I gyraedd yr amcan hwn, gwnaethpwyd llawer o ymchwiliadau gyda hen bobl hynaf pob ardal. Yn ychwanegol hefyd, daethpwyd o hyd i