Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i bregethu, yr hyn oedd y gyfraith yn ei ganiatau, a'r hyn hefyd oedd wedi cael ei wneuthur yn gyffredin gan enwadau eraill yr Ymneillduwyr. Ac nid oedd capelau na thai anedd ychwaith wedi cael eu trwyddedu gan y Methodistiaid. Ymddengys i'r priodoldeb o wneyd hyny fod dan sylw droion cyn hyn yn y Gymdeithasfa, ond yr oedd gwrthwynebiad cryf yn erbyn yn yr holl siroedd, am y rheswm nad oedd y Methodistiaid ddim yn ystyried eu hunain yn Ymneillduwyr. Yr oeddynt o'r dechreu, er's dros haner can' mlynedd, yn para i lynu o ran teimlad a chredo wrth Eglwys Loegr, er eu bod yn ymarferol wedi cilio allan o honi. Oherwydd eu hwyrfrydigrwydd i geisio amddiffyn y gyfraith drostynt, fe gymerodd eu gelynion y gyfraith yn eu llaw eu hunain i'w cosbi, ac yn yr ardaloedd hyn, yr amser a nodwyd, y dechreuodd y traha hwn. Hanesydd hynaf y Methodistiaid, y Parch. Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd, a ddywed:—

"Bum yn rhyfeddu lawer gwaith, er maint a ddyfeisiwyd o ffyrdd i geisio gyru crefydd o'r wlad, trwy erlid mewn pregethau, ac argraffu llyfrau i'r un diben, taflu rhai allan o'u tiroedd, trin eraill yn greulawn trwy eu curo a'u baeddu yn ddidrugaredd, dodi rhai yn y carcharau, ymysg eraill, un Lewis Evan a fu yn y carchar yn Nolgellau flwyddyn gyfan, gyru eraill yn sawdwyr, &c., a chan faint o ddichellion a arferwyd, pa fodd na buasai rhai yr holl flynyddoedd yn defnyddio'r gyfraith i gosbi y pregethwyr, ynghyd â'r rhai oedd yn eu derbyn hefyd? Ond fe guddiwyd hyny oddiwrth y doethion a'r deallus trwy yi holl amser; a thrwy hyny, fe gafodd yr efengyl y wlad o'i blaen i daenu ei newyddion da yn y prif ffyrdd a'r caeau, trefydd, pentrefi, mynyddoedd, a glanau y moroedd, &c., yn ddirwystr, oddieithr y byddai ychydig erlid weithiau. Y cyntaf a ddefnyddiodd y gyfraith oedd rhyw wr bonheddig oedd yn byw yn Sir Feirionydd. Daliwyd un William Pugh, a gorfu arno dalu ugain punt o ddirwy. Ciliodd Lewis Morris i'r Deheudir rhag ei ddal, ac yno, rhoddodd.