Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hun dan nodded y llywodraeth."—Tudalen 94, yr argraffiad diweddaf.

Y gwr bonheddig uchod oedd Mr. Edward Corbett, o Ynys- maengwyn. Efe, yn ol y dystiolaeth hon, oedd y cyntaf i gymeryd y gyfraith yn ei law i gosbi pregethwyr. O'r blaen, ymunai y boneddigion, yr offeiriaid, a'r werin â'u gilydd i ddirmygu, a llabyddio, a rhwystro pregethwyr a chrefyddwyr ymhob rhyw fodd, a phrawf o hyn ydoedd yr erlid mawr a fu ar y 45 a ddychwelent o Langeitho i Sir Gaernarfon. Yn awr, dechreuodd y boneddwr o Ynysmaengwyn eu poenydio mewn ffordd newydd, a meddyliodd y gallai roddi pen arnynt oll yn y ffordd hono. Yr oedd Mr. Corbett yn Ustus Heddwch, ac yn un o'r tirfeddianwyr mwyaf yn y wlad. Cadwai nifer mawr o gŵn hela, yn ol arfer boneddigion y wlad. A chan ei bod y blynyddoedd hyny yn amser o ryfel poeth a pharhaus. rhwng y deyrnas hon â Ffrainc, cadwai nifer o filwyr—gynifer a phedwar ugain," ebe Lewis Morris—o amgylch ei balas. Yr oedd yn elynol iawn i'r grefydd newydd yr oedd son am dani yn y wlad, ac yn greulon yn erbyn y pregethwyr a ddelent i dai i bregethu, yn gystal ag yn erbyn y bobl a'u derbynient i'w tai. Tybir mai dylanwad eraill arno a fu yr achos iddo gymeryd y ffordd newydd o erlid crefyddwyr, a myned i'r fath eithafion o erledigaeth. O'i ran ei hun, yr oedd, fel y ceir gweled eto, yn foneddwr hynaws a charedig yn ei ardal. Taenai yr offeiriaid bob chwedlau anwireddus am y Methodistiaid, galwent hwy yn bobl y "weddi dywyll," a dywedent mai y bobl fwyaf drygionus a dichellgar oeddynt, ac na byddai diogelwch i bersonau nac eiddo os gadewid hwy i fyned ymlaen i lwyddo, ac oblegid hyny, tybiai yntau ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i'r wlad wrth eu cosbi.

Tro rhyfedd o erlid oedd hwnw a fu ar Benybryn, gerllaw Towyn. Coffheir am dano yn fynych gan hen bobl yn yr ardal,. ond amrywia yr adroddiad gryn lawer gan wahanol bersonau. Yn ol pob tebyg, fel hyn y digwyddodd:— Yr oedd Mr. Wil-