Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

liam Jones, gŵr ieuanc a ofalai ar y pryd am eglwys yr Annibynwyr yn Machynlleth, yn pregetha ar Benybryn, Towyn, a daeth gweision Mr. Corbett, a haid o fytheuaid i'r lle i aflonyddu. Wedi i'r gwasanaeth ddechreu, chwythai arweinydd y cŵn y corn, gan ddisgwyl iddynt wneyd eu hoernadau, ond ni chymerai y cŵn sylw o hono; chwythai drachefn a thrachefn, ac o'r diwedd fflangellai â'i chwip, er hyny i gyd ni wnai y bytheuaid ddim swn, ac ni symudent mo'u tafod. Modd bynag, darfu i'r gweision a'r erlidwyr a'u canlynent amgylchu y pregethwr, gan wneuthur lleisiau ac oernadau eu hunain, a phob llwon a rhegfeydd, a bygythient ollwng y cŵn arno, i'w rwygo yn gariai oni roddai i fyny bregethu. Cymerodd hyn le oddeutu y flwyddyn 1789, oblegid y flwyddyn cynt y daethai Mr. William Jones i Fachynlleth, a bu farw ymhen dwy flynedd ; tybir i'r tro hwn effeithio ar ei iechyd.

Gosodai y boneddwr o Ynysmaengwyn weithiau gyflegrau a drylliau gyferbyn â'r manau y cynhelid gwasanaeth crefyddol, gan fygwth chwythu yn ddrylliau pwy bynag a ymgasglent yno. Gorfuwyd i'r Methodistiaid fyned a'u Cyfarfod Misol i Fryncrug unwaith oherwydd hyn. Ond cymerodd yr amgylchiad hwn le rai blynyddau yn ddiweddarach. Y tro cyntaf sydd yn hysbys iddo ddangos ffyrnigrwydd mewn erledigaeth oedd y tro hwnw ar Benybryn, uwchlaw tref Towyn. Ond mwy na thebyg ydyw fod yr ysbryd ynddo cynt, a gellir yn hawdd gasglu fod a fynai hyny rywbeth â bod crefydd wedi bod mor hir heb gael lle i roddi ei throed i lawr yn yr ardaloedd oddeutu. Wrth weled y pregethu yn myned ar gynydd, ac eglwysi yn cael eu ffurfio, ffyrnigodd y boneddwr yn fwy-fwy, daeth i ddeall fod y pregethwyr yn pregethu heb licence, ac mewn tai heb eu recordio, a galwodd ei filwyr allan i ddwyn pawb a allai i afael y gyfraith. Erbyn y flwyddyn 1795 yr oedd y storm fawr yn dechreu ymgasglu. Y flwyddyn hon ymosododd y boneddwr ar yr holl wlad yn ei gyffiniau, o Gorris i lawr i Dowyn. Hyd y gallwn ddeall, yn Nghorris y dechreuodd yr