Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

erledigaeth yn ei gwedd newydd. Yr oedd dau reswm dros. hyn. Elai yr achos crefyddol yn ei flaen yno yn well, a llwyddai yr adeg yma yn fwy nag yn un rhan arall o'r dosbarth; yr oedd hefyd un o'r pump cyntaf a ffurfiai yr eglwys. Fethodistaidd yn Nghorris, Jane Roberts, Rugog, yn byw ar dyddyn y boneddwr. Ceir yr hanes a ganlyn yn Methodistiaeth Cymru (I. 580.):-

"Yr oedd Jane Roberts a'i gŵr yn dal tyddyn o eiddo gŵr bonheddig, yr hwn oedd yn byw rai milldiroedd oddiwrthynt (10 neu 12 milldir). Yr oedd ei theulu yn lliosog, nid llai nag un ar ddeg o blant. Anfonwyd rhybudd, pa fodd bynag, i ymadael â'r tyddyn. Aeth y gwr at ei feistr tir i ymofyn am gael aros eilwaith yn y tyddyn, a chafodd addewid o hono, ar yr amod i'r wraig ymadael a'i chrefydd. Dychwelodd John Roberts adref, a gofynodd y wraig iddo,—

'Wel, John bach, sut y bu hi gyda'r gwr bonheddig?'

'Canolig,' ebe John, 'gallasai fod yn waeth.'

'A gewch chwi y tir eto?' gofynai y wraig.

'Caf,' ebe John, 'ond i ti ymadael â'r bobl yna.'

'Wel, John bach,' ebe Jane, 'os ydych chwi yn tybied mai gwell i chwi a'r plant fyddai i mi ymadael, ymadael a wnaf â chwi, ond nid â 'nghrefydd byth?' Ymddengys mai i brofi y wraig y dywedwyd hyn, oblegid ni bu raid iddi ymadael â'i thyddyn, a'i theulu, nac â'i chrefydd,"

Gwnaeth y boneddwr ymgais mwy penderfynol i gyraedd ei amcan yn yr ardal hon. Nid oedd yr Hen Gastell, sef y tŷ y cynhelid gwasanaeth crefyddol ynddo yn Nghorris wedi ei gofrestru, a chredai yntau y gallai ddwyn y rhai a ymgasglent ynddo i afael cyfraith. Ond yr oedd y ty hwnw ar dir gŵr penderfynol, sef Dafydd Humphrey, tad y diweddar Humphrey Davies, a thaid Mr. Humphrey Davies, U.H, Abercorris. Mae yn werth cael y dyfyniad canlynol eto,—

"Nid oedd yr Hen Castell, mwy na thai eraill y pryd hwn, wedi ei gofrestru yn ol y gyfraith i bregethu ynddo; a phen-