Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

derfynai y gŵr bonheddig dreio beth a wnai dull arall o erlid tuag at lethu yr heresi newydd oedd yn ymdaenu mor arswydus ymhob man. Meddyliodd y mynai efe ddal gŵr y tŷ, a chynifer a geid yn ymgynull yno, a'u dirwyo oll, yn ol y gyfraith, o dan y Conventicle Act. Yr oedd deg neu ddeuddeg o'r milwyr hyn ar eu ffordd tua'r Hen Gastell, dan arfau, i ddal y crefyddwyr; ond daeth hyn i glustiau rhyw un a ewyllysiai yn dda iddynt, a rhedai hwn tra y gallai; un arall a gymerai y newydd ac a redai yr un modd, ac felly o un i arall, cerddai y newydd am ddyfodiad y milwyr, yn gynt na'r milwyr eu hunain. Pan glybu Dafydd Humphrey y newydd, brysiodd a chymerodd y pulpud o'r Hen Gastell, gan ei gario ar ei gefn, a'i guddio dan wellt yn y beudy. Yntau a ymguddiodd ei hunan mewn rhedyn yn ngolwg y ffordd, a gwelwn' meddai, 'y fyddin arfog yn dyfod dan saethu, nes oedd y mwg yn llenwi cwm Corris o ben bwygilydd. Anfonwyd un o'r gweision i ymofyn am danaf fi, a phan ddywedodd fy ngwraig nad oeddwn yn y tŷ, gorchymynodd i mi fyned at ei feistr dranoeth.' Ar hyn aethant ymaith, heb wneyd dim llawer o niwed mwy nag afradu cryn lawer o bylor. Tranoeth aeth Dafydd Humphrey at y gŵr mawr, ac wedi arwain y troseddwr i wydd ei arglwydd, gofynwyd iddo,—

'A wyt ti yn gosod y tŷ i bregethu ynddo?'

'Ydwyf, Syr,' oedd yr ateb.

'I bwy?' gofynai y boneddwr.

'I Vaughan Jones, Syr,' ebe yntau;

'Rhaid i Vaughan Jones ateb i'r gyfraith,' ebe y boneddwr.

Aeth a'r achos i'r Charter Session yn y Bala; ond nid oedd Vaughan Jones ar gael, ac nid oedd cyfreithiwr chwaith, erbyn hyn, a gymerai yr achos mewn llaw; felly disgynodd yr erlyniad yn ddirym i'r llawr."

Disgynodd yr erlyniad i'r llawr oherwydd fod y byrddau wedi troi yn erbyn y boneddwr yn Chwarter Sesiwn y Bala; ond cyn i hono ddyfod oddiamgylch yr oedd ef wedi gwneuthur