Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hafoc o'r crefyddwyr, ac wedi creu dychryn yn eu plith ymhob man. Yn gynar yr un flwyddyn, gyrwyd milwyr o Ynysmaengwyn i ddal ac i ddirwyo eraill. Yr oedd William Hugh, Llechwedd, Abergynolwyn, un o bregethwyr cyntaf Gorllewin Meirionydd, wedi dechreu pregethu er's 5 neu 6 blynedd, a digwyddodd iddo fod yn cadw odfa mewn tŷ yn Nhowyn. Achwynwyd arno wrth y gŵr mawr, oedd yn chwythu bygythion. Anfonodd yntau 12 o filwyr i'w ddal. Cymerodd un o'r deuddeg arno fod yn glaf ar y ffordd, ac ymesgusododd; ond cyrhaeddodd yr un-ar-ddeg, yn arfog, at y Llechwedd preswylfod William Hugh, yn fore iawn, ar ddydd Gwener, yn nechreu haf 1795, ac a'i daliasant yn ei wely. Aeth yntau rhag blaen, wedi derbyn y wys, gyda hwynt at yr ynad, yr hwn a'i dwrdiodd yn dost, ac a'i dirwyodd i 20p. Bu yn alluog trwy gynorthwy ei wraig, a chyfeillion ereill, i'w talu y diwrnod hwnw, a chafodd fyned yn rhydd.

Ond nid oedd yr ystorm drosodd arno eto. Ataliwyd ef i bregethu ar ol hyn. Ymhen rhyw nifer o wythosau, aeth i ymweled â'i gyfeillion yn Nolgellau, y rhai wedi clywed am ei dywydd a fu lawen iawn ganddynt ei weled, a chymellhasant ef i ddweyd gair yn gyhoeddus. Ufuddhaodd yntau i'w cais, a phregethodd. Cyn nos dranoeth yr oedd y newydd wedi cyraedd clustiau yr Ustus Heddwch (yr oedd achwynwyr yn brysur iawn y dyddiau hyny) fod William Hugh wedi pregethu yn Nolgellau. Rhoddwyd gorchymyn allan i'w ddal yr ail waith, a phe buasid yn llwyddo y tro hwn, buasai y ddirwy yn 40p.

Ond cafodd wybod am y cynllun mewn pryd, a'r canlyniad fu iddo ddianc, ac ymguddio hyd y Chwarter Seswn nesaf oedd i'w chynal yn y sir. Nid oedd pall bellach ar gynddaredd yr erlidiwr mawr. Chwiliai a chlustfeiniai am unrhyw achwyn yn erbyn y saint, fel y llew yn y goedwig yn chwilio am ysglyfaeth. Heblaw gosod dirwy o 20p. ar William Hugh; gosododd ddirwy o 20p. ar Griffith Owen, Llanerchgoediog; 20p. ar Edward William,