Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Towyn; ac 20p. ar dŷ yn Bryncrug, ond nid ydym yn gallu gwybod tŷ pwy oedd hwn; ac ymddengys fod Vaughan Jones, Corris, wedi cael ei rybuddio i dalu dirwy o 20p. Dichon mai y digwyddiad mwyaf rhamantus yn yr holl helyntion hyn ydyw, yr hanes am y llew o Ynysmaengwyn yn ceisio dal y cawr, Lewis Morris, Coedygweddill, ac yn methu. Adrodda Lewis Morris ei hun fod yn mwriad Mr. Corbett ei ddal er's tro. Yr oeddynt yn adnabod eu gilydd yn dda, a chyn tröedigaeth Lewis Morris, tra yr oedd, yn nhymor gwyllt ei ieuenctid, yn ben campwr chwareuon y wlad, yr ydoedd mewn ffafr mawr gyda'r boneddwr. Ond wedi iddo droi allan o'r fyddin ddu, a dechreu canmol y Gwaredwr trwy y wlad, daeth y boneddwr yn elyniaethus iawn tuag ato. Yr oedd unwaith wedi rhoddi y gorchymyn i'r cwnstabliaid ei ddal tra yr oedd yn pregethu yn Bryncrug ar nos Sabbath; daeth y swyddogion i'r lle gyda'r neges o'i ddal, a'i ddwyn o flaen y gwr mawr, ond wedi cyraedd yno, ni chyffyrddasant âg ef, a dywedir iddynt adrodd ar ol myned yn ol at eu meistr, mai ei ofn oedd arnynt. Fel y crybwyllwyd, yr oedd gan Mr. Corbett lawer o filwyr o'i amgylch, ac yr oedd gan yr ynadon y pryd hwnw awdurdod i bressio pobl, a'u gorfodi i fyned i'r rhyfel. Yr oedd yn wybyddus i Lewis Morris a'i gyfeillion, mai bwriad y boneddwr erlidgar, os llwyddai i'w ddal ef, oedd ei roddi ar fwrdd man-of-war, neu ei anfon yn filwr i faes y gwaed. Yn ngwyneb hyn, penderfynodd ei gyfeillion ei anfon i Lwyngwair, yn Sir Benfro, lle yr oedd Cadben Bowen yn preswylio, yr hwn oedd yn Ustus Heddwch, ac yn aelod gyda'r Methodistiaid. "Minau," ebe fe, "a aethum tuag yno yn ddioed." Dranoeth ar ol dal William Hugh, anfonwyd y milwyr allan i'w ddal yntau, ond digwyddodd yn rhagluniaethol ei fod eisoes wedi cychwyn oddicartref i gyhoeddiad yn Sir Drefaldwyn. Ar ei ffordd adref, aeth i'r Bala, ac erbyn hyny, yr oedd Mr. Charles a John Evans, ac eraill, mewn pryder mawr yn ei gylch, gan fod y newydd wedi cyraedd yno fod y milwyr allan