Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn chwilio am dano. Ac yno, perswadiwyd ef i beidio myned adref, ond i gychwyn yn ddiatreg i Sir Benfro.

"Ar y ffordd o'r Bala," ebe fe ei hun, "yr oeddwn yn myned trwy bentref Llanymawddwy; yr oedd yn enyd o'r nos a gwaeddais wrth y toll-borth yno; daeth y gŵr yn ei grys i agor y gate, ac a ofynodd i mi pa le yr oeddwn yn teithio. Ymlaen,' ebe finau. Y mae hi yn fyd garw tua Thowyn,' meddai ef mae yno ŵr bonheddig yn erlid pregethwyr y Methodistiaid; ac efe a rydd ddeugain punt am ddal un o honynt, gan fy enwi i, 'ac y mae milwyr yn chwilio yn ddyfal am dano.' Ymlaen yr aethum, a chyrhaeddais balas Llwyngwair mewn diogelwch, lle cefais dderbyniad croesawgar, a charedigrwydd mawr; ond ni chefais licence i bregethu cyn y chwarter Gwyl Mihangel, pan y daeth y Cadben Bowen gyda mi i Gaerfyrddin, ac a gafodd un i mi yno. Yn yr amser hwnw, sef o Wyl Ifan hyd Wyl Mihangel, ni bum yn segur. Ymhen tridiau wedi fy myned i Lwyngwair, cefais fy anfon i gyhoeddiad hen bregethwr o'r enw Sion Gruffydd Ellis, yr hwn oedd wedi myned yn afiach ar daith; a bum yn cadw y cyhoeddiad hwnw am bum wythnos, sef hyd Gymdeithasfa Llangeitho, yn Awst; ac yno mynwyd cyhoeddiad genyf i fyned trwy fanau na buaswn ynddynt o'r blaen, ynghyd â rhai lleoedd yr oeddwn wedi bod ynddynt yn flaenorol. Cefais y tiriondeb mwyaf oddiwrth fy nghyfeillion yn y Deheu."— Adgofion Hen Bregethwr, Traehhodydd 1847, tudal. 112.

Yr oedd Lewis Morris, yn ddiau, wedi gosod ei hun yn agored i beryglon dirfawr yn nechreuad y daith bon, ac yr oedd wedi arfer cyfrwysdra nid bychan yn ei fynediad trwy Lanymawddwy, a thrwy y toll-byrth ar hyd y ffordd. Gan ei fod yn ddyn mor hynod o ran maintioli ei gorff, a chryfder ei lais, y syndod ydyw iddo ddianc heb ddyfod i'r amlwg, a chael ei fradychu. Tra yr oedd ef yn aros mewn diogelwch, ac yn mwynhau breintiau crefydd yn y Deheudir, yr oedd y crefyddwyr o amgylch ei gartref, yn Sir Feirionydd, wedi eu dal gan