Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tai i bregethu ynddynt heb eu recordio, ac eraill i bum' swllt yr un am wrandaw yn y cyfryw leoedd. Nid oedd y Methodistiaid hyd yn hyn yn eu harddelwi eu hunain fel Ymneillduwyr; feallai am fod amryw o'r offeiriaid yn perthyn i'r Corff, ac mai offeiriaid yn benaf oedd ei sylfaenwyr; ac fel hyn, nid oedd gan neb o'r pregethwyr licence i bregethu, canys nid oedd cyfraith i'w hamddiffyn ond fel rhai o dan y cymeriad o Ymneillduwyr. Ond yr amser hwn, gorfu ar yr holl bregethwyr yn y Gogledd gymeryd licence; a chofrestrwyd y capelau, ynghyd â thai anedd i bregethu ynddynt. Daeth llythyr o'r Bala i Ddolgellau yn hysbysu fod modd gochelyd talu y ddirwy am bregethu mewn tai oedd eto heb eu cofrestru, trwy gymeryd y llwon gofynedig cyn pen pum' niwrnod wedi cael y rhybudd cyfreithiol, os da yr wyf yn cofio, a pheidio pregethu yn y manau hyny hyd y Chwarter Sesiwn. Aeth y brawd Hugh Llwyd, un o flaenoriaid Dolgellau, a minau yn ddioed i Gorris, at Vaughan Jones, ac i Lanerchgoediog, at Griffith Owen, dau wr a rybuddiasid i dalu y ddirwy o 20p bob un; a phrydnhawn yr un diwrnod, aethom dros afon Mawddach i Lanenddwyn, at Mr. Owen, ac i Hendreforion, at Mr. Parry, dau ustus heddwch, i gymeryd y llwon angenrheidiol; ac felly yr aeth yr ystorm hono heibio. Yn wyneb hyny o erledigaeth, yr oeddym yn gweled rhai proffeswyr yn ofnus, ac yn anmhenderfynol pa beth a wnaent. Yr oedd yn amlwg y buasai yn well ganddynt i Hugh Llwyd a minau beidio galw yn eu tai wrth fyned heibio, gan na fynent ar hyny o bryd gymeryd arnynt mai Methodistiaid oeddynt. Ond yr oedd rhai eraill yn ymddangos yn wrol, ac yn ymddwyn yn garedig atom. Gobeithio yr wyf na welir byth erledigaeth yn Nghymru; ond meddyliais lawer gwaith wedi y tro hwn, os byth y cawn weled erledigaeth yn ein gwlad, y caem ein siomi am sefydlogrwydd llawer o broffeswyr, ac hwyrach y caem y siomedigaeth fwyaf ynom ein hunain." Y Drysorfa, 1847, tudal. 66.

Bellach nid oedd dim i'w wneyd ond disgwyl am Chwarter