Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sesiwn y Bala. Yr oedd y boneddwr o Ynysmaengwyn yn ustus heddwch, ond nid oedd dim heddwch i'r Methodistiaid oddiwrtho ef, na diogelwch ychwaith, heb son am heddwch. "Os tewi a son a wnai di y pryd hwn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i'r Iuddewon o le arall." Felly hefyd cyfododd ymwared i'r Methodistiaid o le arall. Gwnaethpwyd cais am drwyddedau i'r pregethwyr, ac am i'r tai lle y cynhelid pregethu gael eu cofrestru. Cymerodd Methodistiaid y Bala ran flaenllaw mewn dwyn ymlaen eu cynorthwy, yn enwedig Mr. Charles, a John Evans, yr hen bregethwr. Rhoddodd Mrs. Charles hefyd lawer o gynorthwy yn yr achos hwn, fel y gwnaeth yn achos capel Llanfachreth. Trwy eu hofferynoliaeth hwy sicrhawyd gwasanaeth cyfreithiwr i ddyfod i'r Bala i ddadleu achos y rhai a ofynent am drwydded. Mae yr hanes hwn yn cael ei adrodd yn Methodistiaeth Cymru (I. 584.):—

"Yn y cyfamser, yr oedd Chwarter Sesiwn yn y Bala gerllaw,. a darpariaeth wedi ei wneuthur i geisio yno amddifyniad y gyfraith, trwy alw am gyfreithiwr enwog, o Gaer y pryd hwnw, ac ar ol hyny o'r Cymnau, gerllaw Caergwrle, yr hwn oedd yn Ymneillduwr ei hun. Dangosai ynadon Sir Feirionydd bob anmharodrwydd i drwyddedu pregethwyr; ond hyny ni allent omedd i'r sawl a geisient, heb droseddu y gyfraith eu hunain; a phan rhoddwyd ar ddeall iddynt gan David Francis Jones, Ysw., y cyfreithiwr, fod yn rhaid iddynt naill ai rhoddi amddiffyniad y gyfraith i'r pregethwyr, neu fyned dan ei chosb eu hunain, nid oedd dim i'w wneyd ond plygu. Un o'r ustusiaid, yr hwn oedd barson Llandderfel, a ddywedai, 'Os rhaid i'm llaw arwyddo y papyrau hyn, y mae fy nghalon yn erbyn hyny.' 'Y cwbl sydd arnom ni eisiau,' ebe Mr. Jones, yw eich llaw; am eich calon, nid ydym ni yn gofalu dim am hono." Felly eu trwyddedu a gawsant; ac o hyny allan, anogwyd y pregethwyr i geisio trwyddedau mor wresog ag y gwaharddwyd hyny iddynt o'r blaen. Cofrestrwyd y tai pregethu hefyd. Yn y