Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

modd yma y cafwyd diogelwch rhag y ffurf yma hefyd o erlid. Ni ddefnyddid y dull hwn, tra y gellid cael y werin ffol i derfysgu a baeddu; ond wedi i'r Methodistiaid enill teimladau y werin o'u plaid, nid oedd ond ceisio eu llethu trwy rym cyfraith; ond nid oedd hyn bellach i'w gael, gan fod yr awdurdod a'u llethai hwy gynt, yn awr yn eu hamddiffyn;— y cleddyf a'u harchollai gynt, a archollai eu gorthrymwyr bellach. Y wlad hon, weithian, a gafodd lonydd."

Un o'r rhai oedd yn ymofyn am gael cofrestru ei dy o flaen ynadon Sir Feirionydd yn y Bala y diwrnod hwnw, ac a lwyddodd hefyd i gael trwydded, ydoedd Edward Williams, dilledydd, Towyn, yr hwn a ddirwywyd i 20p am ganiatau i William Hugh bregethu yn ei dŷ, ac a fu yntau hefyd ar ffo o hyny hyd y pryd hwn. Ychydig amser yn ol, cawsom y fraint o weled y drwydded hon fel yr ysgrifenwyd hi yn wreiddiol ar groen, a dangoswyd hi yn gyhoeddus i'r Gymdeithasfa a gynhaliwyd yn Towyn, yn y flwyddyn 1885. Y mae yn cael ei chadw fel trysor gwerthfawr gan rai o hiliogaeth yr hen bererin. Gwaith rhagorol, er mwyn coffadwriaeth yr hen Gristion, fyddai i'r teulu ei throsglwyddo i'w chadw yn Ngholeg y Bala, neu Aberystwyth. Wele gopi o honi air am air—

"Merioneth

to wit.

} Thomas a Becket Sessions, 1795, held before

Rice Anwyl and Thomas Davies, Clerks
Justices of the Peace in and for the said
county.

That a Certain House called Porthgwyn, now in the occupation of Edward Williams, Taylor, situate in Towyn in the County of Merioneth, was this seventeenth day of July 1795, recorded as a place of religious worship for the use of the Protestant Dissenters according to the Statute in such case made and provided.

EDWARD ANWYL,
Dpty. Clerk of the Peace."