Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr eglwysi bychain oeddynt wedi ymgasglu ynghyd ychydig amser yn flaenorol. Gwnaed y gwan-galon yn wanach, a gyrodd i gilio y rhai oeddynt eto heb eu gwreiddio yn y gwirionedd. Ond gwnaeth yr oruchwyliaeth arw y ffyddloniaid yn ffyddlonach, fel y mae y tân yn gwneyd yr aur yn burach. Yr oedd Edward William mor hoew a'r biogen ar hyd tref Towyn, ar ol cael ei dŷ wedi ei drwyddedu. Dangosodd fod plwc ynddo lawer tro ar ol hyn. Lluchiodd yr erledigaeth ei thonau dros Dowyn a'r amgylchoedd, mewn rhyw wedd neu gilydd, dros ryw gymaint o amser eto. Pan oedd un o'r cyfeillion yn myned a'r gloch trwy y dref, i gyhoeddi fod gwr dieithr yn pregethu yn y capel, daeth y boneddwr o'r Ynys ar draws y crier, a gorfu arno ffoi i'w gell. Ar hyn, aeth Edward William a'r gloch allan ei hun, ond ymaflwyd yn y gloch o'i law, a tharawyd ef â hi; ond yr unig anhap, yn ffodus, a ddigwyddodd y pryd hyn oedd, colli'r gloch, a dernyn o gantel yr het a aethai ymaith gyda'r ergyd. Fel hyn y cyfryngodd Rhagluniaeth, onide gallasai darn o'r pen fyned ymaith yr un modd. Daeth Mr. Jones, y cyfreithiwr o Gaer y crybwyllwyd am dano, i wybod am hyn, ac anfonodd gais at Edward William am iddo ganiatau y boneddwr yn ei law ef am y weithred. Ond nacawyd y cais, "Yr wyf wedi ei roddi," ebe E. W., "yn llaw uwch gŵr na chwi, Syr."

Yr oedd Griffith Owen, Llanerchgoediog, wedi ffoi pan y dirwywyd ef i 20p. Ac anfonodd Mr. Corbett ei stiward a chwnstabliaid i'w dyddyn, i geisio rhai o'r anifeiliaid i lawr i Dowyn, i'w gwerthu. Gan ei bod yn yr haf, yr oedd y gwartheg yn y ffridd; aethant hwythau i'r ffridd i'w hymofyn. Wrth eu gweled y dyfod yno ar y fath neges, yr oedd gwragedd crefyddol a duwiol yr ardal ar eu gliniau yn gweddio ar iddynt fethu yn eu hamcan. Llwyddodd eu gweddiau yn rhyfedd i roddi atalfa ar yr atafaeliad. Methasant a dal yr un o'r anifeiliaid; yr oedd y gwartheg a'u cynffonau i fyny yn y gwres, yn rhedeg i bob cyfeiriad; rhedai y cwnstabiaid yn llewis eu