Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i gynorthwyo mewn amgylchiadau o fath y rhai hyn. Ymddengys hefyd fod cydymdeimlad mawr yn cael ei amlygu at y gorthrymedigion gan y brodyr crefyddol yn Nolgellau a'r Bala. Yr oedd Cyfarfod Misol yn bod yr amser yma, y ddau ben i'r sir yn un, ond nid ydym wedi cael allan am ddim symudiad a wnaeth y Cyfarfod Misol fel y cyfryw yn y mater. Cylch eangach, sef y Gymdeithasfa, oedd yn rheoli mewn amgylchiadau o'r fath yma yn y blynyddoedd hyny.

Naturiol iawn ydyw gofyn y cwestiwn hefyd, Beth a ddaeth o'r erlidiwr? Dywed Lewis Morris am dano,—"Gellir sylwi na ddarfu i'r boneddwr hwn ddiweddu ei ddyddiau yn gysurus, yn ei feddwl nac yn ei ystad. Dywedir ei fod yn ei flynyddoedd olaf mewn ofn mawr rhag y Methodistiaid. Yn amser terfysg a fu yn Manchester yn 1817, dywedai, 'Beth os cwyd y Methodistiaid? Hwy a'm lladdant i yn sicr.' Nid oedd efe, druan gŵr, yn eu hadwaen, nac yn gwybod mai ysbryd addfwyn a llonydd a feithrinid ganddynt yn eu holl gymdeithasau; ond euogrwydd ei feddwl oedd yn creu bwganod i'w ddychrynu."

Ond y mae hanesion ar gael, a ffeithiau hefyd ymhlith y trigolion, wedi eu trosglwyddo o dad i fab, mai boneddwr caredig oedd Mr. Edward Corbett. Cael ei yru i erlid y Methodistiaid a gafodd gan eraill, y rhai a gludent bob chwedlau drwg iddo am danynt. Yr oedd achwynwyr yn brysur mewn gwaith o'r fath o gwmpas palas y boneddwr. Cares i William Hugh, Llechwedd, a achwynodd arno gyntaf; a'r ail dro dygwyd y newydd i'r Ynys cyn nos dranoeth ei fod wedi pregethu yn Nolgellau. Arferai y diweddar Humphrey Davies, Corris, yn fynych adrodd yr hyn a glywsai efe ei hun o enau y boneddwr, fel prawf ei fod yn cael ei dwyllo gan ei weision ei hun. Yr oedd H. D. un tro ar ymweliad ag Ynysmaengwyn ar neges cyn diwedd oes yr hen foneddwr. Arweiniwyd ef gan Mr. Jones, y goruchwyliwr, i'r ystafell lle yr oedd yr hen ŵr, yr hwn a ofynai, pan welodd Mr. Humphrey Davies, "Pwy yw