Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn sydd gyda chwi, Mr. Jones?" "Gŵr o Gorris, wedi dod ar neges," ebe yntau. "O, gŵr o Gorris, ai e? Fi chwalu hen gapel Corris, a thaflu y pulpud dros y geulan i'r afon." Dywedai H. D. fod ei waed yn berwi wrth ei glywed, gan fel yr oedd yn teimlo nad oedd Mr. C. yn gwybod y gwir hanes.

Cynhaliwyd Cymdeithasfa yn Nhowyn, ymhen deuddeng mlynedd ar ol yr helyntion hyn, sef yn y flwyddyn 1807, y gyntaf erioed a gynhaliwyd yn y lle. Pryderai llawer ynghylch cynal y fath gyfarfod mor agos i balas y boneddwr, ac adroddir amryw hanesion ynglŷn â'r amgylchiad. Ymhlith eraill, dywedir i ŵr oedd yn cadw gwest-dŷ yn y dref fyned ato, i'w hysbysu am y cyfryw gyfarfod, ac nas gallai efe atal i'r Methodistiaid ddyfod i'w dy, ac heblaw hyny, y gwyddai mai hwy oedd y bobl agosaf i'w lle a ddeuent i'w dy ef. Arwyddodd yntau ei foddlonrwydd iddo wneyd fel y mynai. Diwrnod cyntaf y Gymdeithasfa aeth rhai o'r hen dylwyth chwedleugar i ddweyd fod llawer o bobl wedi dyfod i'r dref, ac y byddai yno lawer mwy dranoeth, gan feddwl yn sicr cael croesaw ganddo. Ond y cwbl a gawsant ganddo oedd, "Gwnant lawer o les i'r dref." Ymhen y flwyddyn bu Sasiwn yn y dref drachefn (cedwid Sasiwn yn flynyddol yn Nhowyn am amser maith ar ol hyn), a phwy y tro hwnw a anfonai gais at y pregethwyr am gael pregeth Saesneg ond merch y boneddwr. Cydsyniwyd a'i chais, pregethwyd pregeth Saesneg gan un o'r Methodistiaid, sef y Parch. Robert Ellis, y Wyddgrug, yn Nhowyn, yn y flwyddyn 1808. Safai y foneddiges ieuanc ar yr heol, a gwrandawai yn astud ar y bregeth drwyddi.

Prawf arall fod y boneddwr wedi cael ei arwain, i fesur, gan eraill i'r erledigaeth ydyw y geiriau a adroddai ef ei hun ymhen blynyddoedd ar ol hyn. Digwyddai fod prinder ymborth mawr yn y wlad, oddeutu 1817 neu 1818, ac eisiau bara yn gwasgu yn drwm ar y preswylwyr. Gan gredu y byddai hyny o ryw wasanaeth, anfonodd y gŵr boneddig am lwyth llong o haidd i Aberdyfi; a chymaint oedd yr awydd-