Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er dim, gael eu cyfrif yn Ymneillduwyr. Y canlyniad fu i ddirwy o 20p. gael ei osod ar William Pugh; 20p. ar dŷ yn Nhowyn; 20p. ar dy yn Mryncrug; ac 20p. ar dŷ yn Llanerchgoediog. Parodd hyn, fel y gallesid meddwl, fraw a synedigaeth trwy y wlad. Deallwyd fod boneddwyr eraill yn bwriadu gwneyd yr un peth â C——t. Bu capel Dolgellau yn nghauad un Sabbath; mae'n debyg oblegid yr arswyd a ddaliasai y pregethwyr i fyned allan heb eu trwyddedu. Dygodd yr amgylchiadau hyn y mater mewn dadl i lwyr benderfyniad, a hyny yn bur fuan. Nid oedd eisiau rheswm, mwyach, o blaid Ymneillduaeth; yr oedd llais yr erledigaeth yn uwch na llais rheswm; ac o hyny allan, ni bu un petrusder mewn un fynwes i gymeryd trwydded, ar gyfrif fod yn rhaid ei chymeryd ar dir Ymneillduaeth. Ac yn y cyfwng hwn yr anfonwyd, fel y dywedasom eisoes, am David Francis Jones, i'r Bala; a thrwyddo y caed nodded gyfraith rhag y gorthrwm blin hwn."—Methodistiaeth Cymru (I. 599).