Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD V
HANES YR EGLWYSI

CYNWYSIAD.—Abergynolwyn—Bwlch—Bryncrug—Llwyngwril—Llanegryn—Corris—Aberllyfeni—Ystradgwyn—Esgairgeiliog—Bethania—Towyn—Pennal—Maethlon—Abertrinant—Aberdyfi—Eglwys Saesneg Towyn—Eglwys Saesneg Aberdyfi.

  N y benod hon, rhoddir crynhodeb o hanes yr eglwysi —eu ffurfiad, eu cynydd, a'u sefyllfa bresenol. Bu raid ymfoddloni ar ychydig o hanes eu ffurfiad, am fod yn anmhosibl dyfod o hyd iddo. Pob peth pwysig mewn cysylltiad â'r achos, hen a diweddar, y llwyddwyd i'w gael, ceisiwyd ei gyfleu yn ei le priodol, gan amcanu i ochel byrdra ar y naill law, a meithder ar y llaw arall. Ynglŷn â phob eglwys, ceir byr-hanes am ei swyddogion, oddieithr nifer o'r blaenoriaid hynotaf, i'r rhai y neillduwyd penod arnynt eu hunain.

ABERGYNOLWYN.

Er mwyn y rhai sydd yn anghyfarwydd â daearyddiaeth yr ardaloedd hyn, mae yn briodol crybwyll fod Abergynolwyn yn sefyll yn union yn nghanol y wlad a elwir Rhwng y Ddwy Afon; o'r bron yr un pellder sydd o'r lle i Gorris ar y naill law, ac i Dowyn ar y llaw arall, i orsaf Glandovey Junction ar un ochr, ac i orsaf Barmouth Junction ar yr ochr arall; a'r bryniau o bob tu yn cau y lle yn unigol arno ei hun. Enw yr ardal hyd yn ddiweddar, o leiaf yn y cylch Methodistaidd, ydoedd y Cwrt. Safai y capel cyntaf yn ymyl ychydig o dai a elwid Cwrt, ar ochr Llanfihangel i'r afon sy'n rhedeg heibio o lyn Talyllyn, ac ar yr ochr arall i'r afon, yr oedd ychydig dai yn myned wrth yr enw Abergynolwyn, ac nid oedd ond ergyd careg da rhwng y ddau le. Tuag ugain mlynedd yn ol, symudwyd y