Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

capel, neu yn hytrach adeiladwyd capel newydd yr ochr arall i'r afon. Yn y cyfamser, hefyd, mae y pentref wedi cynyddu yn bentref mawr o'i gymharu â'r hyn ydoedd, ac yn awr mae yr enw cyntefig wedi ymgolli yn yr enw adnabyddus Abergynolwyn.

Yn y pentref hwn, fel y gwelwyd yn ol yr hanes yn Nrych yr Amseroedd, y pregethwyd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn y wlad hon, a hyny yn y flwyddyn 1780. Yr oedd William Hugh, y Llechwedd, yn 31 oed y flwyddyn hono. Ymhen oddeutu dwy neu dair blynedd wedi hyn yr ymunodd ef a'i gyfaill, John Lewis, Llanfihangel, â chrefydd yn Nolgellau. Hwy eu dau yn ddiameu oedd y proffeswyr cyntaf yn yr ardal. Daeth pregethu yn fwy aml i'r fro wedi hyn. Y lle cyntaf y buwyd yn cynal moddion, ar ol bod yn pregethu ar y cychwyn yn yr awyr agored, oedd man a elwid Cerrig-y-felin, yr hwn le a gafwyd trwy gymwynasgarwch ewyllysiwr da i'r achos, yr hwn oedd yn byw yn Tynyfach. Ni cheir cofnodiad yn un man pa bryd y ffurfiwyd yr eglwys; ond gellir casglu oddiwrth yr amser yr oedd y ddau wr da, William Hugh a John Lewis, yn myned i Maes-yr-afallen a Dolgellau i wrando pregethu, ac oddiwrth y ffaith hefyd eu bod yn dyfod â phregethwyr i'w hardal eu hunain i bregethu, na buont yn hir heb ffurfio eglwys. Oddeutu 1785, blwyddyn dechreuad yr Ysgol Sul yn Nghymru, ydyw yr adeg fwyaf tebygol iddi gael ei ffurfio. Os felly, y hi a sefydlwyd gyntaf yn yr holl wlad, ryw ychydig o amser yn flaenorol i Lwyngwril a Chorris. "Ar ol marw y gŵr a ganiatasai le bychan i bregethu yn Cerig-y-felin," medd yr hanes, "anturiodd William Pugh dderbyn y pregethu i'w dŷ ei hun; a bu yr achos crefyddol (society) yn gartrefol yno dros liaws o flynyddoedd; ond byddai y pregethu yn cael ei gynal yn ei gylch, weithiau yn ei dŷ ef, ac weithiau mewn ystafell a gymerwyd i'r diben yn nghymydogaeth Abergynolwyn. Ymhen 25 mlynedd (neu feallai beth yn ychwaneg) o ddechreuad pregethu yno, adeil-