Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adwyd capel yn y Cwrt; ac ar ol hyn, o radd i radd, mudwyd eisteddfod y moddion yno oll yn gyffredinol." Y mae ardal Llanfihangel oddeutu dwy filldir o Abergynolwyn, yn nghyfeiriad Llanegryn. Yno yr oedd y crefyddwyr cyntaf yn byw; yn y Llechwedd, yn yr ardal hono, yr oedd cartref W. Hugh, y pregethwr, ac oblegid hyny yno y cynhelid y moddion am y 25 mlynedd cyntaf. Ond oherwydd fod y Cwrt yn fwy canolog i'r wlad oll, symudwyd yr achos yno yn 1805 neu 1806. Yr oedd y symudiad o Lanfihangel i'r Cwrt yn wrthwynebol i deimlad yr hen bregethwr, ac yn groes i'w foddlonrwydd y gwnaed y symudiad. Teimlai ymlyniad wrth ei ardal enedigol, a dywedai yn aml, "Byddaf foddlon i farw ond cael gweled capel wedi ei adeiladu yn ardal y Llan, a llwyddiant cyffelyb ar yr efengyl." Efe a fu y prif offeryn i gychwyn achos crefydd yn yr ardal, a chan hyny yr oedd yn naturiol i'w ymlyniad fod yn gryf wrthi. Dechreuodd bregethu ei hun oddeutu 1790, a chyn hyny yr oedd wedi llafurio llawer i gael eraill i'r ardal i efengylu.

Yn Tynyddol, yn ardal Llanfihangel, y ganwyd Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl, ac fe roddodd yr amgylchiad arbenigrwydd byth-gofiadwy ar yr ardal. Ganwyd hi yn y flwyddyn 1784, oddeutu yr un adeg ag y ffurfiwyd yr eglwys Fethodistaidd yn y lle. Pwy all ddweyd nad oedd y cydgyfarfyddiad hwn yn fanteisiol yn nhrefn Rhagluniaeth i ddwyn y canlyniadau pwysig a welwyd oddiamgylch! Yr oedd gwir grefydd yn beth dieithr yn y wlad, a'r ychydig grefyddwyr oedd i'w cael yn meddu ar zel anghyffredin. Gwnaeth eu zel a'u ffyddlondeb, yr hyn oedd lawer uwchlaw zel crefyddwyr yn gyffredin, argraff ddofn ar feddwl yr eneth yn nyddiau ei mebyd. Yr oedd ei rhieni, Jacob a Mari Sion, yn grefyddol. Ni oddefid i blant fod yn y cyfarfod eglwysig y pryd hyny, nac am lawer o flynyddoedd wedi hyny. Ond arferai Mary fyned gyda'i mam i'r cyfarfodydd eglwysig ar nosweithiau tywyll, i gario y lantern iddi, er pan oedd yn 8