Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ewbl ddiflanu. "Ar un achlysur, trwy bregethu yn y Cwrt, ar Zech. iv. 10., bu yn foddion i ail enyn awydd a zel yn ei frodyr o barth yr Ysgol Sabbothol, yr hon oedd bron a diflanu. Bendithiwyd y bregeth hon mewn modd neillduol, a diflanodd y caddug o ragfarn fel tarth boreuol o flaen pelydr gwresog yr haul." Cofia y Parch. Owen Evans, Bolton, ei fod yn nyddiau ei febyd yn myned gyda'i dad o Penmeini—pan oedd ei dad yn byw yno—i'r Cwrt, ir society, ar nosweithiau tywyll ganol yr wythnos, ac nid oedd dim ond dwy neu dair o hen wragedd heblaw hwy eu dau yn gwneyd i fyny y cyfarfodydd. Ceir fod y Cyfarfod Misol wedi cymeryd yr eglwys yn y Cwrt o dan ei ofal ar ol marw Richard Jones, Ceunant, tua 1848, a byddid yn penodi ar Lanegryn a Chorris, bob yn ail fis, i anfon brodyr yno i'w cynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddi a chyfarfodydd eglwysig. Wrth weled hyn yn para i gael ei wneuthur, dywedai Mr. Humphreys mewn Cyfarfod Misol unwaith, "Beth ydyw'r mater arnoch chwi yn y Cwrt acw, aeth pawb i'r nefoedd oddiacw gyda Richard Jones?"

Ond os oedd yr eglwys yn fechan mewn rhif, a'i haelodau yn "dlodion y byd hwn," yr oeddynt yn "gyfoethogion mewn ffydd." Am ei duwioldeb, yn yr oes o'r blaen, rhagorai yr eglwys hon ar holl eglwysi y saint. "Yr oedd yn y Cwrt lot o hen bobl dda ragorol, pan oeddwn i yno dros ddeugain mlynedd yn ol," ebe un hen frawd crefyddol wrthyf unwaith. "Mewn beth yr oeddynt yn rhagori?" gofynwn inau. Ebe yntau, "Mewn zel gyda chrefydd; mewn ffyddlondeb i ddilyn moddion gras; mewn taerineb mewn gweddi." Sonir yn ddieithriad gan bawb a adwaenent y lle lawer o amser yn ol, am dduwioldeb, a phrofiad, a chanu hen wragedd y Cwrt. Yr oedd yr hen wragedd nid yn unig yn fwy lliosog, ond yn fwy patriarchaidd eu dull na'r hen wŷr oedd yno. Y gwragedd fyddai ar y blaen gyda'r canu, a Mari Siôn, mam y Gymraes fechan heb yr un Beibl, fyddai yn arwain y canu. Crybwyllir am dani yn dechreu canu mewn hwyl orfoleddus oddeutu 1820,