Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i chwi, ac mae hono gystal a cheiniog rhywun arall." Dywed- ai un o'r casglyddion wrthi drachefu, "A fyddai ddim yn well i chwi symud i fyw yn nes i'r capel, yn lle bod yn y fan yma yn unig?" "Yn y fan yma yn unig! Dydw' i ddim yn unig; mae gen i gwmpeini gwell na neb o honoch chwi. 'Rydw' i yn cael llawer iawn o gymdeithas yr Arglwydd yma yn fynych iawn."

Yr oedd yr hen bobl hyn wedi cyffwrdd â'r tân cyntaf oedd yn perthyn i grefyddwyr cyntaf yr ardal, a chadwasant y tân heb ei golli tra buont hwy byw. Ar eu hol hwy cyfododd tô arall, heb feddu crefydd mor danbaid, na chariad brawdol mor gryfed â'r hen bobl. Wedi i'r eglwys gynyddu, ac i ddieithriaid ddyfod i'r lle i fyw, tua phymtheng mlynedd yn ol, oherwydd rhyw achos neu gilydd cyfododd anghydfod yn yr eglwys, yr hyn a derfynodd mewn ymraniad. Dechreuodd mewn peth digon bychan, fel y mae cynen rhwng brodyr yn dechreu yn gyffredin. Dichon mai goreu po lleied a ddywedir am dano, a llawenydd ydyw coffhau fod y rhwyg, i bob ymddangosiad allanol, er's tro mawr wedi ei gyfanu. Bendith fawr arall a ddygwyd oddiamgylch er's llai na phymtheng mlynedd yn ol oedd i'r eglwys fyned yn daith ar ei phen ei hun. Cymerodd hyn le yn 1873. Cyn hyny yr oedd tri lle yn gwneyd i fyny y daith, Abergynolwyn, Penmeini, ac Ystradgwyn, a gwyr pawb oedd yn adnabyddus o'r lle y pryd hwnw mai llafur a lludded mawr i'r pregethwr oedd myned drwyddi ar y Sabbath.

Bu yn perthyn i'r eglwys rai blaenoriaid gwir ragorol, heblaw y rhai cyntaf oll y crybwyllwyd eisoes am danynt. Richard Jones, Ceunant, am yr hwn y ceir mwy o hanes mewn penod ddyfodol; John Williams, Living, sydd yn flaenor yn Abertrinant; Samuel Williams, Bryneglwys, yr oedd yma. yn amser y Diwygiad, a symudodd wedi hyny i fyw i Rugog, Corris. Robert Lumley, yr hwn a symudodd yma o Aberllefeni, oedd yn wr crefyddol, gonest, a chydwybodol iawn yn