Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

allan. Gwnaeth gymwynasau cyffelyb i laweroedd, trwy roddi help llaw iddynt ddyfod at grefydd, ac i lynu wrth eu crefydd. Yr oedd yn grefyddol, yn addfwyn, yn ddoeth, ac yn gefnogol i bawb a phobpeth fyned yn ei flaen. Rhoddodd help i liaws o bererinion ar eu ffordd i'r nefoedd. Deallai faterion eglwysig yn ol y Testament Newydd yn well na llawer, ac fe wnaeth waith mawr gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu, mewn adeiladu y saint, a hyfforddi eglwysi y sir y perthynai iddi. Yr oedd yn meddu ar synwyr cyffredin tuhwnt i'r cyffredin, ac yr oedd yn hynod am ei graffder a'i allu i adnabod dynion, ac am ei gydwybodolrwydd dwfn i grefydd. Fel blaenor, ystyrid ef heb ddim petrusder yn un o rai blaenaf ei oes; cymerodd ei le, a chadwodd ei le fel gŵr o gyngor yn y Cyfarfod Misol ac yn y Gymdeithasfa, a llanwodd y lleoedd uchaf a berthynai i'w swydd ef yn y Cyfundeb. Symudodd ymlaen gyda'r oes yr oedd yn byw ynddi gyda phob mater o bwys. A mwy na hyny, cymerodd ran neillduol mewn arwain y Methodistiaid yn Nghymru gyda golwg ar rai symudiadau pwysig. Bu yn un o'r rhai cryfaf i bleidio bugeiliaeth eglwysig ar hyd ei oes. Yn ei sir ei hun, efe a osodid fynychaf, ar gyfrif ei bwyll a'i fedrusrwydd, i wastadhau cwerylon ac anghydfod mewn eglwysi. Bu hefyd amryw weithiau yn traddodi anerchiadau i flaenoriaid ar eu derbyniad yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. Ac un o'r pethau diweddaf a wnaeth cyn myned i'w wely i beidio codi mwy, oedd parotoi cyngor i nifer o frodyr ar eu neillduad i'r swydd, yr hwn a ddarllenwyd wedi hyny yn y Cyfarfod Misol.

Bu yn addurn i grefydd yn ei wlad, ac yn golofn gref yn yr eglwys yn Nhanygrisiau. Cofir yn hir am ei ddull astud, serchog, calonogol, yn gwrando'r efengyl. Byddai ei Amen cynes yn llon'a y capel, ac yn llawn peroriaeth, am y cynwysai wir deimlad y Cristion addolgar. Un o'r engreifftiau mwyaf tebyg ydoedd yn ei ddull o wrando i'r darluniad a rydd y bardd