Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn ŵr gweithgar a defnyddiol iawn gyda'r achos. Yn mis Mai 1841, gosodwyd ef gyda nifer o flaenoriaid eraill y Cyfarfod Misol i olygu ar ryw lwybr tuag at leihau dyled y capelau. Nid oes ddadl ynghylch ei dduwioldeb. Fe ddywedir ar seiliau digonol fod ôl ei benliniau o dan goeden neillduol yn yr ardd lle byddai yn myned i weddïo, i'w weled yn goch am amser hir ar ol iddo farw. Cafodd fyw yn hir i wasanaethu crefydd, a magodd blant fuont yn golofnau cedyrn o dan yr arch ar ei ol.

RICHARD GRIFFITH, GLANLLAFAR.

Dengys y tocyn canlynol yr amser y neillduwyd ef i'r swydd,—

RICHARD GRIFFITH,

Golygwr Cymdeithas

Y Methodistiaid Calfinaidd

Cwmprysor, yn Swydd Feirionydd.

Arwyddwyd gan

Mehefin 13, 1838.................RICHARD JONES.

Gŵr pwyllog, gwastad gyda chrefydd ydoedd ef, ac yn fawr ei ofal am holl amgylchiadau yr achos. Perchid ef yn fawr gan fyd ac eglwys, oherwydd ei ymarweddiad cyson, a'i gariad cryf at achos y Gwaredwr. Ystyrid pobpeth a ddywedai yn ddeddf ar unwaith. Ei briod, Ellin Griffith, hefyd, oedd yn meddu crefydd nodedig o ddisglaer. Cyfodai ei theimladau crefyddol mor uchel weithiau, fel y byddai yn tori allan mewn gorfoledd yn y nos, a dywedir y bu ei phriod yn fynych yn rhoi ei law ar ei genau rhag iddi aflonyddu y teulu. Bu Richard Griffith farw mewn henaint teg, Ionawr, 1873. Glanl'afar bob amser ydoedd cartref y pregethwyr, ac y mae yn parhau i fod felly eto.