Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/206

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Roberts, gŵr a ddaeth i'r Factory ar ymadawiad Huw Llwyd. Brodor oedd ef o Bentrefoelas, a thad i'r Dr. Roberts, Penygroes. Cawsai ef fanteision addysg, yr hyn oedd yn beth anghyffredin yr amseroedd hyny. Er nad oedd yn grefyddwr ar y pryd, ymgysegrodd i waith yr ysgol tra bu yn y gymydogaeth. Efe, fel y dywedir, oedd yr arolygwr cyntaf ar yr ysgol yn Llanfrothen. "Byddai yn gwneyd i'r rhai digrefydd ddarllen ar gylch ar ddechreu yr ysgol, ac un o'r brodyr crefyddol i weddio." Un arall oedd Robert Owen, wedi hyny y Parch. Robert Owen, Rhyl. Daeth i wasanaethu i'r ardal fel gwehydd. Derbyniodd yn helaeth o ysbryd Diwygiad Beddgelert tra bu yma, a bu yn weithiwr medrus gyda'r ysgol, a dywedir y byddai yn myned yn orfoledd yn aml. Gŵr tra ffyddlon arall oedd Griffith Thomas, Garreg isaf. Daeth i'r ardal i fod yn hwsmon gyda'r Parch. Richard Jones, Wern. Dyn effro iawn ydoedd; bu yn myned am flynyddau i Gwm Croesor, i gynorthwyo gyda'r ysgol, pryd nad oedd yn y Cwm yr un crefyddwr. Yn nechreu y flwyddyn 1819, sef y flwyddyn yr anfonwyd y cyfrifon gyntaf i'r Cyfarfod Ysgolion, rhifai yr ysgol hon 127.

Yn fuan wedi sefydlu yr ysgol yn Ysgoldy y Wern, dechreuwyd pregethu yn rheolaidd, a chynhelid cyfarfodydd gweddi, a chyfarfodydd eglwysig. Aelodau yn y Penrhyn oedd yr ychydig grefyddwyr a breswylient yn y fro yn flaenorol. Ac ar y cyntaf, anfonid dau frawd o'r Penrhyn yma i gynorthwyo i gynal y seiat. Gellir casglu yn lled sicr fod yr eglwys wedi ei ffurfio, a'r achos wedi ei sefydlu yn Ysgoldy y Wern yn weddol reolaidd tua'r flwyddyn 1815, oblegid yr ydym yn cael oddiwrth hen ddyddiadur Mr. Gabriel Davies, y Bala, mai y daith Sabbothol y flwyddyn ganlynol oedd, "Wern, Penrhyn, Maentwrog." Nis gallai nifer yr aelodau fod ond o ddeg i ddeuddeg. Yn nhŷ W. Lewis y cedwid y seiat, am fod yno rhy ychydig i fyned i'r capel, sef y Felin. Rhoddai gŵr a gwraig y Wern