Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/408

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

weddar Barch. Isaac Jones, o Nantglyn, Sir Ddinbych. Ar ei ymsefydliad yma, dechreuodd gario ymlaen fasnach, er enill bywoliaeth iddo ei hun a'i deulu. Nid oedd, yr amser hwnw, yr un ffordd i bregethwr gyda'r Methodistiaid fyw ond trwy ymgymeryd â chelfyddyd neu fasnach fydol. Parhaodd i gario ymlaen y fasnach hyd ddiwedd ei oes, tymor o chwe' blynedd ar hugain. Bu Rhagluniaeth yn dda wrth eglwys Talsarnau, trwy anfon pregethwr yma i fyw ymhob cyfnod o'i hanes bron o'r cychwyn cyntaf. Y flwyddyn cyn ymsefydliad Mr. Griffith Williams yma y bu farw yr hen bregethwr adnabyddus, Mr. David Williams. Gwnaed y bwlch i fyny felly ar unwaith. Er mai ymddibynu ar ei fasnach yr oedd Mr. G. Williams am ei fywoliaeth, eto, gwasanaethodd yr eglwys trwy yr holl amser gyda ffyddlondeb mawr. Yr ydoedd, mae'n wir, yn ystod blynyddoedd diweddaf ei oes yn derbyn swm bychan o gydnabyddiaeth am y gwasanaeth hwn. Gwnaeth waith efengylwr, ac ymgymerodd â rhan helaeth o bwysau yr achos, mewn adeg yr oedd dyled drom yn aros ar y capel. Nid oes neb ond y rhai oedd yn cydoesi âg ef a all wybod am ei bryder, ei ofal, ei gynlluniau, a'i ymdrechion i beri i achos crefydd, yn ei gymydogaeth ei hun, fyned ar gynydd i gyfateb i freintiau a manteision yr oes.

Yn ei gysylltiadau teuluaidd, yr oedd bob amser yn ddedwydd. Daeth yn adnabyddus fel un yn dwyn i fyny liaws mawr o deulu, ac fel Abraham, gorchymynodd i'w blant a thylwyth ei dŷ i rodio yn ffordd yr Arglwydd. Cawsant oll gychwyniad crefyddol o'r fath oreu. Mae ei fab hynaf, y Parch. Isaac Jones Williams, yn weinidog yn Llandderfel er's amryw flynyddau. Yr oedd yn ŵr cyfeillgar, pwyllog, a hollol ddidwyll yn ei gysylltiadau bydol a chrefyddol. Ffraethineb a humour oeddynt linellau amlycaf ei gymeriad mewn cymdeithas. Deuai yr awydd cryf oedd ynddo i lesoli ei gyd-ddynion i'r golwg yn ei waith yn wastad yn cynllunio rhyw