Tudalen:Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwasia.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

beryglu eu bywydau trwy ymdrechu tori eu ffordd trwy y gelynion. Yn y cyfamser Pedr, yn anobeithiol o gael unrhyw ganlyniadau ffafriol oddiwrth y genadwri, a ysgrifenodd at ei senedd yn Moscow"Os syrthiaf i ddwylaw y gelyn, nac ystyriwch fi mwyach yn benadur arnoch, ac naç ufuddhewch i unrhyw orchymynion a ddeuant atoch o'r lle y byddaf yn garcharor, hyd yn nod pe byddent wedi eu harwyddo â'm llaw fy hun. Os lleddir fi, dewiswch y teilyngaf yn eich mysg fel olynydd i mi."

Pa fodd bynag, ataliwyd y mesurau eithafol hyn trwy ddychweliad y genad, yr hwn a ddygai yr hysbysiad fod cytundeb heddwch anrhydeddus wedi cael ei gynyg gan y prif weinidog Tyrcaidd. Y mae pleidwyr Siarl XII yn arfer bob amser son am ymddygiad y llywydd Tyrcaidd ar yr achlysur hwn fel llwfreidd-dra; ond ymddengys i ni ei fod wedi ymddwyn mewn dull urddasol a goleuedig, a'i fod, trwy gytuno i derfynu y rhyfel, wedi ystyried lles y wlad yn ganwaith mwy na phe buasai wedi aberthu rhagor o filwyr i wrthwynebu Pedr, a gyru y fyddin Rwssiaidd i eithafion. Darfu yr ymladd ar unwaith; ac yn fuan wedi hyny arwyddwyd cytundeb, yn ol pa un yr oedd Azoph i gael ei hadferu i'r Tyrciaid, y Rwssiaid i gael eu cau allan o'r Môr Du, y fyddin i encilio o'r tu hwnt i'r Danube, ac addewid am fynedfa. rydd i Siarl XII. trwy Rwssia i'w wlad ei hun. Er cymaint o aberth oedd hyn i Pedr, fod gwasanaeth Catherine yn cael ei ystyried yn rhyfeddol a brofir tu hwnt i bob dadl; ac yn mhen rhai blynyddau ar ol hyny, pan oedd yn cael ei choroni yn ymerodres, Pedr a'i cydnabyddodd drachefn yn gyhoeddus, gan gyfeirio at yr -achlysur arswydus" yn y geiriau hyn—"Hynododd ei hun mewn modd neillduol trwy wroldeb a phresenoldeb meddwl uwchraddol i'w hystlen, yr hyn sydd yn berffaith hysbys i'r holl fyddin, ac i holl ymerodraeth Rwssia."

Yn 1715-16 ymbleserodd Pedr trwy gymeryd ail daith trwy Ewrop, gan gymeryd Catherine gydag ef. Ymwelodd â Saardam, lle y buasai, ddeunaw mlynedd yn ol, yn gweithio fel saer llongau; a lle y derbyniwyd ef yn awr gyda phob arddangosiadau o barch a serchlondeb. Dywedir iddo ddangos i'r ymerodres, gyda llawer o ddyddordeb, y caban bychan yn mha un y buasai yn gweithio ac yn byw. Bu yn Holland am dri mis, ac wedi llwyddo i wneyd cynghrair â Ffraingc, efe a ddychwelodd i St. Petersburg.

PRAWF A FARWOLAETH ALEXIS

Yr ydym yn awr yn dyfod at gyfran dywyll ac aneglur yn mywyd Pedr Fawr. Ymddengys fod Alexis, mab Pedr o'i wraig ysgaredig, yn meddu yn naturiol ar ddealltwriaeth egwan, yn gysylltiedig â'r math hwnw o gyfrwysdra isel ag sydd yn ei ddylyn yn fynych, heb fod unrhyw ragoriaethau moesol i wrthbwyso y cyfryw ddiffygion; ac yn anffortunus nid oedd ei addysg wyrgam ond wedi ei gadarnhau yn ei ddrygedd a'i folineb. Crybwyllwyd yn barod fod Pedr, ar ddiddymiad y briodas, wedi gadael i'w fab aros dan ofal ei fam. Y canlyniad fu iddo, er yn ieuangc, gael ei osod dan ddylanwad yr offeiriaid, y rhai nid yn unig, a lanwasant ei feddwl â syniadau coelgrefyddol, ond dysgasant ef fod y cyfnewidiadau yn y llywodraeth ac arferion y bobl, y rhai a wnaethid gan yr ymerawdwr, yn weithrediadau croes i feddwl Duw. Y mae yn amhosibl peidio cydymdeimlo a Phedr yn y siomedigaeth a raid ei fod wedi ei deimlo wrth gael ei unig fab yn greadur dwl, drygionus, ac ofer, oblegyd yr oedd yr unig fab a anesid iddo o Catherine wedi marw pan yn faban.

Pan oedd Alexis oddeutu ugain mlwydd oed, sef tua'r amser y darganfu Pedr y drwg a wnaethai, efe a ymdrechodd ei ddiwygio, trwy osod mathau ereill o bobl o'i amgylch, a'i anfon i drafaelio. Pan ddychwelodd yn ol, efo a'i priododd â thywysoges brydferth a deallus o deulu Brunswick, yr hon a fu farw cyn pen pedair blynedd, o doriad calon, oherwydd creulondeb, esgeulusdod, a meddwdod ei gŵr. Ar ol ei marwolaeth, Pedr a ysgrifenodd lythyr at ei fab, yr hwn a derfynai yn y geiriau hyn :—"Mi a arosaf ychydig amser eto, i edrych a fydd i chwi ymddiwygio; ac os na wnewch, gwybyddwch y bydd i mi eich tori o'r olyniaeth, fel y byddwn yn tori ymaith aelod diles. Na ddychymygwch nad wyf yn meddwl ond eich dychrynu; na phwyswch ar y ffaith mai chwi yw fy unig fab; canys os na arbedaf fy mywyd fy hun dros fy ngwlad a’m pobl, pa fodd yr arbedaf chwi? Byddai yn well genyf adael fy nheyrnas i dramoriad a'i teilyngai, nag i fy mab fy hun, yr hwn sydd yn gwneyd ei hunan yn annheilwng o honi." Ac mewn llythyr ar ol hyny Pedr a ddywedai, Cymerwch eich dewis; naill ai gwneyd eich hun yn deilwng o'r orsedd, neu ynte ymgymeryd â bywyd mynach."

Ymddengys nad oedd Alexis yn foddlawn i wneyd y naill beth na'r llall, er yn ymddangos yn edifeiriol ar adegau. Pan oedd yr ymerawdwr ar gychwyn i'w daith trwy Germani a Ffraingc, efe a ymwelodd a'i fab, yr hwn oedd ar y pryd ar wely cystudd.