Tudalen:Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwasia.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y pryd hyn addawodd Alexis droi yn fynach, os adferid ei iechyd; ond mor gynted ag yr oedd ei dad allan o Rwssia, daeth yn berffaith iach, ac aeth yn mlaen yn ei hen fuchedd o derfysg ac ysbleddach. Cyrhaeddodd rhyw air am hyn at y tad. yr hwn a ysgrifenodd ato, gan ei orchymyn yn bendant naill ai iddo ymgymeryd â bywyd mynach, neu ynte ei gyfarfod ef yn Copenhagen. Alexis a benderfynodd fyned i Copenhagen, a chafodd arian gan Mensikoff i dalu ei draul. Ond i Vienna yr aeth, a thrwy iddo beri cryn drwbl i ymerawdwr Germani, gorfu arno ymadael oddi yno am Naples. Ymddengys mai ei amcan ydoedd myned mor bell ag y gallai oddiwrth ei dad; ond nid oedd Pedr Fawr yn ddyn a gymerai ei drin fel hyn,—felly anfonwyd cenadon i'w gyrchu adref i Moscow. Wedi cyrhaedd yno, cynaliwyd cynghor ar y mater, yn Chwefror 1718, a dietifeddwyd ef yn gyhoeddus; profwyd ef ar y cyhuddiad o fod wedi bradwriaethu yn erbyn ei dad a'r deyrngadair gan nifer o seneddwyr a swyddogion milwrol. Wedi prawf hirfaith, efe o'r diwedd a gafwyd. yn euog, a thraddodwyd dedfryd marwolaeth arno; ond y fath fu ei ddychryn pan y clywodd hyny, fel y syrthiodd i lewygfeydd, o'r rhai ni lwyr ymddadebrodd, a bu farw yn druenus yn y carchar ar y 7fed o fis Gorphenaf.

MARWOLAETH PEDR FAWR

Yn Ngorphenaf 1724, yr ydym yn ei gael yn arwain llynges yn erbyn Sweden, ac wedi cyflawni ei bwrpas, yn dychwelyd i Cronstadt, lle y gwnaeth arddangosfa o'i lynges. Treuliodd ei flynyddoedd diweddaf mewn dwyn ymlaen amryw welliantau mawrion a phwysig; yn mhlith y rhai y gellir nodi ei waith yn gwneyd darpariadau gogyfer â'r llifogydd a fygythient ei brifddinas newydd ar brydiau—estyn camlas Ladoga—sefydlu athrofa wyddonol—edrych i mewn i dreialon a chospedigaeth troseddwyr gwladol—cefnogi llafur y dosbarth a ffurfient gyfreithiau yr ymerodraeth—alltudio y Capuchiaid o Rwssia, a llunio cynghrair masnach o'r newydd â Sweden. Efe hefyd, yn 1724, a ddyweddïodd ei hoffus ferch Anne â'r Duc Holstein, wedi iddo yn gyntaf osod y goron ymerodrol, gyda rhwysg mawr, ar ben ei wraig Catherine, ar y 15fed o'r mis Mai blaenorol, fel arwydd o'i gariad a'i edmygedd. Darparodd hefyd fod i addysg briodol gael ei rhoddi i fab yr annedwydd Alexis, y fath ag a weddai i un a ddeuai yn y dyfodol yn ymerawdwr Rwssia.

Er fod iechyd Pedr wedi bod yn gwaethygu er's rhai misoedd, ymddengys fod ei farwolaeth wedi cael ei achlysuro gan weithred o ddyngarwch. Tua diwedd y flwyddyn 1724, pan yn myned i arolygu gefail a gwneuthurfa arfau yn Systerbeck, efe a ganfu fâd, yn llawn o filwyr a morwyr, mewn perygl ar y lan, ac anfonodd gwch ysgafn er eu cynorthwyo, yr hwn a ffaelodd yn ei anturiaeth. Yn benderfynol i gyrhaedd ei amcan, efe a aeth ei hunan at y lle; a chan na allai ei lestr eu cyrhaedd, efe a neidiodd i'r dwfr, ac a rydiodd at y cwch, ac a lwyddodd i'w gael oddiar у lan. Anwyd trwm a ddylynodd y weithred beryglus, ond dyngarol hon, ac yn ychwanegol at yr afiechyd poenus y buasai yn dyoddef o dano yn flaenorol, a barodd i ymddangosiadau o'r fath mwyaf angeuol amlygu eu hunain. Daeth y pethau hyn yn mlaen mor ddisymwth yn y diwedd, ac yr oedd ei ddyoddefiadau mor fawr, fel y bu yn analluog i amlygu ei ddymuniadau olaf fel y dewisai. Nid oes, er hyny, un amheuaeth nad oedd yn bwriadu apwyntio ei wraig fel ei olynydd. Yr oedd ei eiriau olaf, mor belled ag y gellid eu deall, yn arwyddocâu hyny: ac ar ddydd ei farwolaeth, hi a'i dylynodd ef heb i neb ei gwrthwynebu. Catherine a wyliodd wrth ochr ei wely, heb ei adael o gwbl am y tair noson olaf o'i fywyd; ac efe a anadlodd yr anadl olaf yn ei breichiau ar y 28ain o Ionawr, 1725, ac efe ond yn unig yn dair ar ddeg a deugain oed.

Yr oedd Pedr Fawr yn ddyn o athrylith nerthol a gwreiddiol; gwnelai bobpeth ei hunan, ac ni fyddai byth yn offeryn yn llaw neb arall. Tymherid ei wresogrwydd gan ddoethineb a phenderfyniad. Tarddai ei golliadau oddiar y gallu annherfynol oedd yn ei ddwylaw, a'i ddiffygion addysgiadol. Yr oedd ei wasanaeth i genedl anwybodus a barbaraidd o'r gwerth mwyaf; yn wir gellir dyweyd fod yr holl ddaionus bethau a feddiannir gan Rwssia yn awr, heb unrhyw ormodiaith, wedi tarddu oddiwrtho ef. Oni bai efe gallasent fod heddyw mor anghelfydd a diallu ag oeddynt pan y cafodd afael arnynt; ac y mae gweithrediadau fel yr eiddo ef yn ymestyn eu dylanwad yn mhell i'r dyfodol, ac yn enill enw na dderfydd tra pery y ddaear!