Tudalen:Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwasia.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

erbyn ei feistr blaenorol. Nid oedd Pedr, er hyny, yn un a gymerai ei ddigaloni gan un methiant. Adnewyddodd ei ymosodiad yn y flwyddyn ganlynol; a chan fod marwolaeth ei frawd Ioan erbyn hyn wedi taflu holl adnoddau arianol yr ymerodraeth i'w ddwylaw, yr oedd ganddo foddion i gyfnerthu a darparu ar gyfer ei alluoedd mewn modd effeithiol. Yr oedd y llongborth newydd yn Woronetz, ar yr afon Don, wedi cynyrchu iddo, erbyn haf 1696, lynges o 25 o rwyflongau, a phedair o longau tân. gyda pha rai y gorchfygodd efe y llynges Dyrcaidd o'r tu allan i Azoph. Trwy fod pob cymhorth o'r môr wedi ei gau allan, cariodd yn mlaen y gwarchae gyda bywiogrwydd adnewyddol, ac yn mhen dau fis, yr oedd y Rwssiaid yn Azoph. I ddyogelu meddiant o'r allwedd yma i'r Môr Du, efe a eangodd ac a gadarnhaodd yr amddiffynfeydd, adeiladodd borthladd digon mawr i dderbyn llongau trymion, a rhoddodd orchymyn am i bymtheg a deugain o longau rhyfel gael eu hadeiladu, gan gadw mewn golwg ar yr un pryd y cynllun o wneyd camlas er cysylltu yr afon Don gyda'r Wolga.

Flwyddyn neu ddwy cyn hyny yr oedd Pedr wedi ysgaru a'i wraig yr hon a briodasai pan yn fachgen gwraig a ddewisasid iddo, ac nid cydmar o ddewisiad ei hun. Rhoddir amryw resymau dros ei waith yn gwneyd hyny; ond ymddengys mas y gwir reswm oedd, ei bod yn ddynes o ddealltwriaeth gwan, yn gaethes i goelgrefydd a rhagfarn, yn offeryn yn nwylaw yr offeiriaid, ac o ganlyniad yn sefyll ar fordd pob diwygiad; canys yr offeiriaid, gan wybod y darfyddai eu gallu o flaen goleuni gwybodaeth, ni chollent un cyfleustra i ddrwgliwio yr ymerawdwr ac i ddyrysu ei amcanion. Diau i Pedr gamsynio wrth adael ei fab Alexis dan ei gofal, fel y profwyd wedi hyny; ond i'n meddwl ni profai dynerwch ac ystyriaeth at y fam, ac arddangosai galon fwy teimladwy nag y mae haneswyr yn gyffredin yn addef ei fod yn ei meddu.

PEDR FAWR AR EI DEITHIAU

.

Wedi sicrhau porthladd dymunol, a chael ymadael â gwraig nad oedd yn addas iddo, y gwaith nesaf wnaeth Pedr oedd anfon nifer o Rwssiaid ieuangc i orphen eu haddysg yn Italy, Germany, a Holland. Hyd yma yr oedd Rwssia heb un cynrychiolydd swyddogol yn unrhyw lys yn Ewrop; ond anfonodd yr ymerawdwr genadwriaeth ysplenydd i Holland, y prif ddynion yn mha un oedd Le Fort a Menzikoff, a Phedr ei hun yn eu canlyn yn answyddogol. Y mae y rhwyddineb a'r dyogelwch â pha un yr ymadawodd â'i ymerodraeth eangfawr yn dangos mor gadarn yr ydoedd wedi sefydlu ei awdurdod. Wrth fyned trwy Riga, ar ei ffordd i Holland, ceisiodd ganiatâd i weled yr amddiffynfeydd, ond gwrthodwyd hyny gan y llywodraethwr Swedaidd—dirmyg y penderfynodd Pedr ei gospi yn y man. Wrth fyned trwy Prwssia, derbyniwyd ef gan y brenin gyda pharch mawr, a chyda holl fawredd ac ysplenydd-dra breninol. Yma ymwahanodd Pedr oddiwrth y genadwriaeth, ac a aeth i Holland, gan drafaelio yn anadnabyddus, ac mor gyflym ag oedd yn bosibl. Llogodd ystafell fechan yn y dockyard, wedi cyrhaedd Amsterdam bymtheg niwrnod o flaen y genadwriaeth. Yn fuan wedi hyny ymwisgodd fel cadben Long Isellmynaidd, ac yn y dillad hyny aeth i Saardam, lle yr ymgyflogodd fel saer llongau i weithio wrth y dydd, dan yr enw Pedr Michaeloff, gydag un o'r enw Calf. Yma y preswyliodd mewn cut pren am saith wythnos, yn gwneyd ei wely ei hun, ac yn parotoi ei fwyd ei hun, tra yr ymohebai gyda'i weinidogion gartef, gan weithio ar yr un pryd fel saer llongau.

Dyma y dull a gymerodd Pedr Fawr i ddysgu llong-saernïaeth; mor ewyllysgar i weithio fel saer llongau i'r pwrpas hwnw ag y buasai yn gweithredu fel tabyrddwr i ddyben arall yn ei gatrawd gyntefig. Gwir a ddywed un o'i fywgraffwyr boreuaf, "fod llawer o freninoedd wedi rhoi heibio eu hawdurdod wedi blino ar ofalon a llafur llywodraethu, ond efe yn unig a adawodd ei deyrnas er astudio y gelfyddyd o'i llywodraethu." Y fath ddarlun o Pedr Fawr a all meddwl ystyriol dynu ar yr adeg hon; a'r fath gyfarfyddiad a raid fod hwnw a gymerodd le rhyngddo ef a'r Duc Marlborough yn ddamweiniol yn Saardam! Oblegyd yr oedd y pendefig Seisonig yn gwybod yn dda ei fod yn canfod, yn y gweithiwr "Pedr Michaeloff," berchenog diymwad ar chwarter o'r belen ddaearol, yn arglwydd a feddai allu ar fywyd ac angeu ei holl breswylwyr; yn fyr, ymerawdwr Rwssia. Yr oedd Pedr ar y pryd, 1697, yn bump ar hugain oed, a dysgrifir ef fel dyn mawr nerthol, gyda phrydwedd hyf a rheolaidd, gwallt gloywddu yn disgyn yn fodrwyau o gylch ei wddf, a llygad du, treiddgar, yn gwibio o'r naill wrthddrych i'r llall gyda chyflymder melltenol. Ymwisgai ar yr achlysur hwnw mewn crys o wlanen goch, llodrau a het llongwr, ac eisteddai, gyda neddai yn ei law, ar ddernyn afrywiog o bren a orweddai ar lawr. Ymddiddanai, gyda difrifwch mawr, â rhyw ddyeithriaid, a'i wyneb yn arddangos, trwy ei amlygiadau cryfion ac amrywiol, y dyddordeb a gymerai yn yr ymddiddan. Y duc