Tudalen:Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwasia.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

milwrol—onid yw yn hawdd dychymygu y gwahaniaeth yn eu gwisgoedd a'u nodweddiad?—ddynesodd ato, ac a ddechreuodd ymddiddan gydag ef trwy wneyd rhai sylwadau ar y gelfyddyd o adeiladu llongau. Tra yr oeddynt yn ymddiddan, daeth dyn dyeithr atynt, a chanddo lythyr mawr yn ei law; y gweithiwr a neidiodd ar ei draed, a chan gymeryd y llythyr, efe a dorodd y seliau, ac a'i darllenodd yn awyddus, tra y rhodiai Marlborough falch i ffwrdd heb gael un sylw pellach!

Pwy ddichon dyweyd beth oedd cynwysiad y bryslythyr hwnw! Dichon fod bywyd neu angeu, rhyddid neu gaethiwed, clod neu gyfoeth un neu fwy o'i ddeiliaid yn crogi ar air y "gweithiwr tramor" hwnw. Fel hyn, tra yn trin y cwmpas a'r neddai yn Saardam, y dygwyd iddo y newydd fod ei gydymgeisydd Augustus, etholydd Saxoni a thywysog Conti, wedi ei ddewis i deyrngadair wag Poland; a Phedr a addawodd ei gynorthwyo gyda 30,000 o filwyr.

Yn y cyfamser yr oedd ei fyddin yn enill buddugoliaethau o'r newydd tuag Azoph; ond yr oedd gan Pedr uchelgais ardderchocach na dymuniad am ogoniant milwrol. Parhaodd i ymwellhau mewn gwahanol gelfyddydau, gan fyned yn fynych o Saardam i Amsterdam i wrando darlithiau ar ddifyniaeth; a gwnaeth ei hun yn alluog i gyflawni amryw weithrediadau mewn llaw-feddygaeth. Efe hefyd a ddysgodd yr iaith Isellmynaidd, ac a aeth gryn ffordd mewn mesuroniaeth, peiriannaeth wladol, a'r wyddor o wneyd amddiffynfeydd, heblaw ymweled a phob sefydliad llenyddol, elusenol, a gwyddonol, a'r melinau papur a'r melinau llifio, a phob sefydliadau llaw-weithyddol, y rhai a archwiliai yn ofalus, gyda'r bwriad o sefydlu rhai cyffelyb yn ei ymerodraeth ei hun. "Beth yw hwna?" fyddai ei ofyniad gwastadol pan welai rywbeth newydd; ac ni orphwysai ei feddwl am foment nes cael esboniad arno. Gallwn ddychymygu syndod yr Isellmyniaid tawel a swrthlyd at y tywysog egnïol hwn, yr hwn, er yn dewis gweithio fel saer llongau, ni chymerai unrhyw drafferth i ddirgelu ei urddas; yn teithio hyd y wlad gyda bywiogrwydd meddwl a chorph hefyd ag oedd iddynt hwy yn annirnadwy, ac yn ceisio gwybodaeth gyda mwy o awydd a gwresogrwydd nag y darfu i neb tywysogion ereill hyd yn nod chwilio am bleserau.

Treuliodd Pedi Fawr oddeutu naw mis yn yr Iseldiroedd, yn ystod pa amser yr adeiladwyd llong ryfel o driugain gwn yn ol ei gynllun ef, ac yn yr hon y gweithiodd gryn lawer a'i ddwylaw ei hun. Dywedir fod y llestr hon yn engraifft ardderchog o long-saernïaeth—anfonodd hi i borthladd Archangel, canys hyd yma nid oedd ganddo borthladd yn Môr Llychlyn.

PEDR FAWR YN LLOEGR

Croesodd Pedr drosodd i Loegr, lle y derbyniwyd ef yn groesawgar gan Gwilym III, yr hwn a benododd Ardalydd Caerfyrddin i weinyddu arno, ac efe a ymroddodd i wasanaethu yr ymerawdwr. Prif amcan Pedr oedd archwilio llyngesbyrth a sefydliadau morawl Lloegr, megys ag y gwnaethai yn Holland; ac er ei fod yma yn cadw ei radd o'r golwg, ni ddarfu iddo weithio yma fel gweithiwr cyffredin; eto, yn ol un hen ysgrifenydd, "byddai iddo yn fynych gymeryd i fyny yr arfau, a gweithio gyda hwynt; a mynych ymddiddanai â'r adeiladwyr, y rhai a ddangosent iddo eu cynlluniau, a'r dull o osod i lawr, ar gyfartaledd, unrhyw long neu lestr." Ar y cyntaf lletyai yn York Buildings, tra yn Llundain; a dywedir fod y tŷ olaf, agosaf i'r afon, ar yr ochr ddwyreiniol i Heol Buckingham, gerllaw y Strand, wedi cael ei drigianu ganddo; ond wedi hyny, er mwyn cael bod yn nês i'r môr, efe a breswyliodd mewn mewn ty perthynol i'r hynod John Evelyn yn Deptford, fel y crybwylla hwnw yn ei ddyddlyfr, dan y dyddiad Ionawr 30, 1698.

Ymerawdwr Muscofi, wedi dyfod i Loegr, a chanddo feddwl am weled adeiladu llongau, a logodd fy nhy i, Saye's Court, gan ei wneyd yn llys a phalas, wedi ei ddodrefnu o'r newydd gan y brenin." Ac oddeutu yr amser yma ysgrifenai gwas Evelyn at ei feistr fel hyn:—"Y mae llonaid y tŷ o bobl, ac y mae yn ddigon budr. Cysga yr ymerawdwr yn yr ystafell nesaf i'ch llyfrgell, a chiniawa yn y parlwr agosaf i'ch myfyrgell. Y mae yn ciniawa am ddeg o'r gloch, ac am chwech yn y nos; anaml y mae adref am ddiwrnod cyfan; mae yn bur fynych yn yard y brenin, neu ar y dwfr, wedi ymddilladu mewn amryw wisgoedd. Dysgwylir y brenin yma heddyw: y mae y parlwr goreu yn lled lân i'w groesawu ef. Y mae y brenin yn talu am y cwbl a gaiff." Y fath gipolwg a gawn ar yr hen amser gynt trwy chwedleuaeth o'r fath yma!

Er na ddarfu i'r ymerawdwr gario allan ei awyddfryd mor bell yn y wlad hon ag i weithio fel saer llongau, eto yr oedd mor awyddus am hwylio a thrin cychod yma ag yn Holland. Yr oedd Syr Antoni Deane ac Ardalydd Caerfyrddin gydag ef bob dydd ar y Tafwys, weithiau yn hwylio mewn pleser-longau, bryd arall yn rhwyfo mewn