cychod, yn mhob o'r ddau ymarferiad yma dywedir fod yr ymerawdwr a'r ardałydd yn rhagori. Bwrdd y Llynges a dderbyniodd orchymyn oddiwrth y llywodraeth i logi dwy long, i fod at: orchymyn yr ymerawdwr pa bryd bynag y tybiai yn briodol hwylio ar y Tafwys, er ymarfer mewn llongwriaeth. Yn ychwanegol at y rhai hyn, y brenin a'i hanrhegodd a'r llong "Royal Transport," gyda gorchymyn am i'r cyfryw gyfnewidiadau a chyfaddasiadau gael eu gwneyd ynddi ag a ddymunid gan ei fawrhydi yr ymerawdwr; ac hefyd i newid ei hwylbreni, ei rhaffau, ei hwyliau, &c., yn y fath fodd ag y barnai ef yn briodol, er gwellhau ei chymwysderau hwylio. Ond ei hyfrydwch llawr oedd cael myned i gwch byrddiedig perthynoldi'r llyngesborth, a chymeryd dim ond Menzikoff a thri neu bedwar ereill o'i ddylynwyr, i weithio gyda' hwy, ac yntau wrth y llyw. Trwy ymarferyd fel hyn dywedai y byddai yn alluog i'w dysgu i hwylio llongau wedi iddynt gyrhaedd adref.
Tra yn Lloegr, trodd Pedr ei sylw at beiriannaeth, a derbyniodd radd doethawr o brifysgol Rhydychain. Cymerodd i'w wasanaeth uwchlaw pum' cant o bersonau—swyddogion, peirianwyr, cyflegrwyr, llaw-feddygon, &c.; ac yn neillduol, un fintai o beirianwyr a gweithwyr medrus, y rhai a ddanfonodd efe i Rwssia, i'r dyben o gario allan gynllun mawr a ffurfiasid ganddo yn ei feddwl pell-ganfyddol. Y gwaith mawr yma oedd agor cymundeb rhwng yr afonydd Volga a Don â'r Môr Caspiaidd. Gellir cael meddylddrych am yr anwybodaeth a'r goelgrefydd yr oedd gan Pedr i ymwneyd â hwy, wrth feddwl fod y cynllun ardderchog hwn wedi codi cri yn mhlith yr offeiriaid a'r pendefigion, y rhai a ddywedent "ei fod yn annuwioldeb troi y ffrydiau un ffordd, tra yr oedd Rhagluniaeth wedi bwriadu iddynt fyned ffordd arall.". Ferguson, yr enwog beiriannydd a mesuronwr, a aeth i'w wasanaeth, ac efe a ddygodd gyntaf rifyddiaeth i ymarferiad yn nhrysorlys Rwssia. Cyn hyny, cyfrifent yn ol dull y Tartariaid, gyda pheleni yn hongian ar wyfren.
Cyn ymadael a Lloegr, wrth ffarwelio â'r brenin William, anrhegodd ef & pherl werth £10,000, gan ei dynu o boced ei wasgod, "wedi ei lapio mewn darn o bapur llwyd.". Anrheg freninol ydoedd, er nad oedd yn cael ei chyflwyno gyda seremoni breninol; ond yr oedd Pedr yn erbyn ffurfiau a seremoniau, ac yr oedd Gwilym III. yn ddyn llawer rhy gall i ddal sylw ar beth felly. Mewn ad-daliad hefyd am y gwasanaeth a wnaethai Ardalydd Caerfyrddin iddo, efe a roddodd i'r pendefig hwnw yr hawl i drwyddedu pob casgen o dybacco a ddeuai i Rwssia, ac i godi pum' swllt am bob trwydded. Rhaid fod hyn yn dwyn cyllid mawr i mewn, oblegyd prynwyd yr hawl i ganiatâu y trwyddedau gan gwmni Seisonig am £15,000.
PEDR YN DYCHWELYD ADREF—GWRTHRYFEL YN MOSCOW—NARVA
Cychwynodd Pedr o Loegr yn niwedd y flwyddyn 1698, ac aeth drosodd i Holland. O Holland aeth i Vienna, er ymweled ag ymerawdwr Germany, yr hwn yn ddiddadl oedd yn falch o'i weled, er mwyn ei sicrhau fel cynorthwywr yn erbyn ei hen elynion y Tyrciaid. Derbyniwyd ef gyda rhwysg mawr; ond yn nghanol y llawenydd a ddynodai ei ddyfodiad, cyrhaeddodd newydd ato fod gwrthryfel wedi cymeryd lle yn Moscow, ond ei fod wedi ei ddarostwng trwy egni a phenderfyniad y Cadfridog Gordon, yr hwn a adawsai yno fel penllywydd. Parodd y newydd yma iddo roddi i fyny y bwriad o ymweled ag Itali, yr hyn a fwriadasai wneyd; a chan deithio gyda'i gyfİymdra arferol, efe a brysurodd i'w brifddinas. Cafwyd allan yn fuan fod y Strelitziaid (milwyr y brifddinas,) wedi cael eu hanog i wrthryfel gạn y, Dywysoges Sophia, yr hon, gan gymeryd mantais ar absenoldeb ei brawd, a obeithiai feddiannu y brif awdurdod. Amryw o'r prif wrthryfelwyr a grogwyd yn ngolwg ffenestri Sophia, a chollfarnwyd ereill i farwolaeth greulonach, ac a dorwyd ar yr olwyn. Y mae haneswyr yn son llawer am greulondeb Pedr ar yr achlysur hwn, ond y mae yn dra thebyg fod hyny, fel llawer o bethau ereill, wedi eu mwyhau yn fawr gan y cyfryw.
Yn 1699, cafodd Pedr golled drom drwy farwolaeth ei gyfaill a'i gynghorwr, y Cadfridog Le Fort, ar gynhebrwng yr hwn y pentyrodd anrhydedd cyffelyb i'r hyn a dderbyniasai breninoedd blaenorol. Yr oedd ei hunan yn yr orymdaith, yn cerdded ar ol y cadbeniaid fel isgadben, canys dyna y swydd a ddaliai yn nghatrawd Le Fort. Oddeutu yr amser yma hefyd y collodd efe ei ffyddlon gadfridog, Gordon, galluoedd milwrol yr hwn a fuasai mor wasanaethgar iddo yn adffurfiad ei fyddin. Menzikoff, yr hwn a godasai o ddinodedd trwy ei dalentau a'i alluoedd, a ddaeth yn awr yn brif gyfaill a chynghorwr Pedr. Y Strelitziaid—yr offerynau hyny o wrthryfel a therfysg—oeddynt erbyn hyn wedi cael eu difodi, a'u lle wedi ei gymeryd gan saith ar hugain o gatrodau newyddion o wŷr traed, a dwy o feirchfilwyr, y rhai, yn y ystod tri mis, a ddygasid dan ddysgyblaeth ragorol. Heblaw ailffurfio y fyddin