Tudalen:Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwasia.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drychineb fod wedi disgyn arnynt ond trwy "gwyngyfaredd a dewiniaeth." Pa fodd bynag, ni arosodd Pedr am help Sant Nicholas. Efe a ffurfiodd gynghair â breninoedd Denmark a Poland, ar iddynt ei gynorthwyo & milwyr, a chadw i fyny y cweryl â Siarl XII; ar yr un pryd efe a doddodd glychau eglwys a mynachlog Moscowi fwrw cyflegrau, ac a wnaeth bob parotoadau anghenrheidiol gogyfer a'i ryfelgrych yn y gwanwyn. Ond ynghanol hyn oll, ni chollodd efe ei olwg ar y cynlluniau ag oeddynt i ddwyn eu ffrwyth yn amser heddwch. Ar yr adeg hon yr oedd yn sefydlu ysbyttai ac ysgolion, yn adeiladu gweithfaoedd at wneyd lliain a phapur, ac yn dwyn crosodd ddefaid o Sacsoni, gan gasglu ynghyd ofaint, eurych, a chrefftwyr o bob dysgrifiad, ac archwilio mwngloddiau Siberia am fwnau.

CATHERINE—ST. PETERSBURG—CYMERYD NARVA

Nid ein bwriad yw croniclo y brwydrau a'r gwarchaeadau yn ystod y flwyddyn nesaf a'r un ganlynol, ond bydd i ni nodi un o honynt yn fanwl, am iddi fod yn achlysur i ddwyn i sylw Pedr berson a gymerodd ran fawr yn ei holl helyntion dyfodol. Marienberg, tref fechan ar gyffiniau Ingria a Livonia, a warchaeid gan fyddin Pedr, ac a roddwyd i fyny yn anamodol. Naill ai trwy ddamwain neu yn fwriadol, y Swediaid a'i hamddiffynent a osodasant dân yn yr ystorfa bylor, yr hyn a gythruddodd y Rwasiaid i'r fath raddau fel y dinystriasant y dref, gan gludo ymaith y trigolion. Yn mysg y. carcharorion yr oedd geneth ieuangc oddeutu un ar bymtheg oed, Livoniad o enedigaeth, yr hon a ddygid i fyny o elusen yn nhŷ gweinidog Lutheraidd. Nid oes un lle i feddwl ei bod erioed wedi byw mewn uwch sefyllfa nag fel morwyn yn y teulu; ond dywedir ei bod wedi ymbriodi a milwr Swedaidd, yr hwn â laddwyd yn y gwarchae. Dygwyd y weddw amddifaid i wersyll un o'r cadfridogion Rwssiaidd. Pa bryd yn fanwl y gwelodd Pedr hi gyntaf, nis gellir byth ei wybod; ond yr hanes tebycaf ydyw, ei bod yn cario o amgylch ffrwythau sych a gwirodydd yn mhabell y Tywysog Menzikoff, ac mai yno y darfu i'r gaethes Livonaidd; yr hon a adnabyddid wrth yr enw Martha, dyny sylw yr ymerawdwr y tro cyntaf. Yn ei ddull arferol, pan fyddai wedi ei foddhau gan foesau a gwynebpryd rhywun, efe a ymddiddanodd â hi, a chafodd allan ei bod yn feddiannol ar ddealltwriaeth uwchlaw y cyffredin. At hyn hefyd yr oedd yn meddu tymher fywiog a siriol, calon garedig, a thymher addfwyn. Diameu fod Pedr wedi gweled mai hi oedd y ddynes a wnelai y tro iddo, yn un a allai gydymdeimlo ag ef yn ei gynlluniau—yn fyr, i fod yn wraig iddo. Nid oedd iselder ei genedigaeth yn un rhwystr iddo ef; yr oedd ganddo awdurdod i'w chodi i'r safle uwchaf yn yr ymerodraeth; ac felly, wrth yr enw Catherine, yr hwn a fabwysiadodd yn awr, efe a'i priododd, yn gyntaf yn ddirgelaidd, ond yn mhen ychydig flynyddau gyda rhwysg a mawredd ymerodrol. Fel hyn y dewisodd ei gydymaith ar yr orsedd, a'i olynydd ynddi ar ei ol.

Yn fuan ar ol y pethau hyn-1700—bu i farwolaeth y "patriarch," neu ben yr Eglwys Roeg, roddi iddo gyfleustra i ddechreu rhai diwygiadau iachus yn y sefydliad hwnw. Yn gyntaf, efe a ddiddymodd swydd y patriarch, ac a osododd ei hun ei le, heb unrhyw ragbarotoad, am y tybiai nad oedd dim a allai yr offeiriaid ddysgu iddo ag oedd arno eisiau ei wybod. A diau nad oedd dosparth o ddynion a ddysgent fod sancteiddrwydd yn hanfodi mewn barf, a'r rhai a arferent roddi llythyrau cymeradwyol at eu sant achlesol yn nwylaw pobl wedi meirw pan yn gorwedd yn eu heirch, yn debyg o gael llawer o barch gan ddiwygiwr mor enwog a Phedr I.

Yr argraffwasg, yr hon a ddygasid gan Pedr i Rwssia, a fwriai allan bob cableddau arno; a galwai yr offeiriaid ef yn Anghrist. Ond yr oedd ychydig yn ei amddiffyn ef rhag y cyhuddiad hwn, eithr yn unig am nad oedd y rhif 666 yn ei enw, ac nad oedd ganddo nod y bwystfil !

Oddeutu yr amser yma cafodd yr ymerawdwr gyfleustra rhagorol i ddangos fod arferion newydd yn gyffredinol yn well na hen rai. Ar yr achlysur o briodas un o'i chwiorydd, efe a wahoddodd brif foneddigion a boneddigesau Moscow i ddyfod iddi, a gorchymynodd iddynt ymwisgo mewn dillad henafol. Gweinyddid y ciniaw yn ôl у dull yr unfed ganrif ar bymtheg: Yn ol hen ofergoeledd, gwaherddid cyneu tân ar ddiwrnod priodas; felly, er ei bod yn auaf, ni oleuwyd tân. Gynt ni byddai y Rwssiaid yn yfed gwin, ac felly, ni ddarparwyd dim; a phan oedd y gwahoddedigion yn grwgnach oherwydd y trefniadau anarferol, Pedr a ddywedodd wrthynt, "Dyma ddefodau eich hynafiaid, ac yr ydych yn dyweyd mai hen ddefodau yw y goreu" gwers ag oedd yn fwy grymus iddynt nag unrhyw ymresymiad mewn geiriau.

Wedi cael y taleithiau oedd arno eisiau, dechreuodd Pedr adeiladu Petersburg; yn nghyflawniad yr hwn orchwyl efe a orchfygodd anhawsderau a fuasent yn ddigon i