HANES PLWYF FFESTINIOG.
DAEARYDDIAETH Y PLWYF, &c.
"DYN byw!" meddai y diweddar Ellis Owen, F.S.A., Cefnymeusydd, wrth edrych o ben Moel y Gest, "dacw ochrau Ffestiniog-dyna enw digrif: beth yw ei ystyr? Ffestiniog, Ffestinio, neu brysuro oedd eisieu, os tros y mynyddoedd i'r Bala neu i'r Yspytty yr eid cyn y nos; ac mwy fyth os ym mlaen y llanw y croesid y Traeth Bach a'r Traeth Mawr i Sir Gaernarfon."[1] Hwn yw yr ystyr a roddir i'r enw gan deithwyr Seisnig, a'r un a dderbynir yn gyffredin. Dywed Edmunds y gallai mai o Mesen (acorn) ac wg (district) y tardda y gair, ac mai ystyr Ffestiniog ydyw "Rhanbarth y Mês." Dywed Browne Willis y gall y gair olygu tir diffaeth (waste).[2] Ond tueddir ni i gredu fod yr un gwreiddyn i'r gair ac i "Penffestin,"[3] (a helmet). Dyma fel y dywed y Proffeswr Rhys ar hyn:—"Mor bell ag y gallaf fi farnu yr ydych ar yr iawn lwybr. Yr oeddwn bob amser yn credu fod yn rhaid fod yr enw Ffestiniog o'r un tarddiad a 'ffestin' yn y gair 'penffestin,' yr hwn a olyga amddiffyn i'r pen; yna ystyr Ffestiniog fuasai lle yn meddu amddiffynfeydd neu gadarnleoedd,' fel y mae 'Celynog' yn golygu lle y ceir celyn, 'Eithinog,' lle y ceir eithin," &c.
- ↑ Cell Meudwy, tudal. 44 a 45. "Names of Places."
- ↑ "Bangor," tudal. 277. Festiniog interpreturi petest locus aridus.
- ↑ Yr ydym yn ddyledus am yr awgrymiad hwn i Mr. R. Rowland. Gwelsom wedi hyny hefyd yr un tarddiad yn cael ei roddi i'r gair yn ysgrif Richard Williams (Wmffre Dafydd), ond tybiai ef i'r lle dderbyn yr enw hwn am fod yr eglwys yn sefyll ar le uchel ac amlwg.