Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Plwyf Ffestiniog.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pa un bynag ai cywir yr esboniad hwn a'i peidio, y mae Ffestiniog yn ei gyflwr natur, a'r mynyddoedd o'i amgylch, yn lle da i ddiangc iddo am noddfa, a cheir y mynyddoedd hyn, fel y sylwir yn mhellach, wedi eu cadarnhau mewn amryw fanau gan gelfyddyd.

Saif Plwyf Ffestiniog yn Nghantref Ardudwy Uwch Artro, yn Ngogledd-Orllewin Sir Feirionydd.

Ei hyd o Orllewin i Ddwyrain, sef o Gaer Fali, yn agos i Penrhyndeudraeth, hyd Garnedd Iago yn Migneint (Mign: cors) lle y cyferfydd Siroedd Meirionydd, Caernarfon, a Dinbych, ydyw 10 milltir; a'i led o Ddeheu i Ogledd, sef o Afon Cynfal[1] i Fwlch Gorddinen (Gerddinen [Criafolen] neu Gor-ddu-nant) ydyw 5 milltir, a mesura ei arwynebedd 16,456 ac. a 22 po.

Terfynir Plwyf Ffestiniog ar y Gogledd gan blwyfau Dolyddelen a Beddgelert; ar y Dwyrain gan Benmachno ac Ysbytty; ar y Deheu gan Maentwrog; ac ar y Gorllewin gan y Traeth Bach, Llanfihangel y Traethau, a Llanfrothen. Y mae llawer o amrywiaeth yn arwynebedd y Plwyf; y mae ei ddyffrynoedd a'i gymoedd yn brydferth, ond sail gogoneddusrwydd a chyfoeth Ffestiniog yw ei fynyddoedd ysgythrog, lle y gwelir "esgyrn natur yn y golwg heb ddim i'w cuddio." Ar y Gogledd y mae cadwen o fynyddoedd yn gwahanu Plwyf Ffestiniog oddiwrth Blwyf Dolyddelen, &c. Y prif drumiau yn y gadwen hon ydynt Moel Farlwyd 1,850 troed. fedd, Moel Penamnaen 2,005 troedfedd, a'r Foel Frâs 1,850 troedfedd. Yn ffurfio rhan o'r un ucheldir a'r rhai hyn y mae y Cribau (Summits), a Moel Farlwyd. Buasai bron yn anmhosibl croesi y mynyddoedd hyn oni bai am y bylchau geir ynddynt; Bwlch Gorddunant, a Bwlch Barlwyd.

  1. "Cynwal (the first laying place,") ydyw y gair, medd Dr. Owen Pugh (Cambrian Register, 1795). Ai nid cystal Cynfal (Cyn-bal: y blagur cyntaf), oherwydd fod pobpeth yn tarddu yn gynar ar ochrau y Cwm!