Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Plwyf Ffestiniog.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar y Dwyrain y mae y Manod Mawr 2,178 troedfedd, y Manod Bach; y Bryn du, y Gamallt, Bryniau'r Fonlle a Cherig yr Iwrch. Yn nghymydogaeth y rhai hyn y mae y Garnedd, Craig-y-gareg-lwyd, &c. Rhwng y Manod Mawr a'r Bryn du y mae Bwlch Careg y Fran (Bwlch Caradog ap Bran, medd rhai), fu o wasanaeth mawr yn yr hen oesau. Ar y Gorllewin y mae Cadwen y Moelwyn, yn gwahanu Ffestiniog oddiwrth Lanfrothen, &c. Y mae y gadwen hon, er nad mor uchel, yn llawer mwy rhamantus ac ysgythrog na chadwen y Wyddfa ei hunan.[1] Y prif drumiau yma ydynt Moelwyn Mawr 2,530 troedfedd, Moelwyn Bach 2,340 troedfedd, a'r Foel Rydd (oherwydd rhyddni y graig mewn rhanau), neu Moelwyn yr Hydd, yr hon sydd yn 2,140 troedfedd o uchder, yr Allt Fawr a'r 'Werddon Yn y gadwen hon y mae Bwlch Stwlan, neu Bwlch Trwstyllog, neu Bwlch-Drws-Elen, trwy ba un yn gystal a Bwlch Cwmorthin yn fwy i'r Gogledd, a Bwlch-y-saethau, (yn yr hwn. le y cafwyd blaen saeth oddeutu 32 mlynedd yn ol), y teithid i Lanfrothen, Beddgelert, &c.

Heblaw y mynyddoedd a nodwyd, y mae yn y plwyf amryw foelydd a chefnau &c., megis Moel y Dduallt, Moel Tanygrisiau, neu Foel Ystradau, Cefn Trwsgl a Chefn Bychan (o'i gydmaru â'r Cefn Mawr-Cefn Trwsgl), Y Gareg Ddu, &c.

DYFFRYNOEDD A CHYMOEDD.

Y cyntaf y cawn sylwi arno ydyw Dyffryn Ffestiniog, neu fel y dylid ei alw, Dyffryn Ffestiniog a Maentwrog. Y mae hwn yn un o'r dyffrynoedd prydferthaf yn Mhrydain, ac y mae yn fwy dymunol fyth i'r golwg o'i gymharu â'r myn- yddoedd ysgythrog a welir o'i amgylch. Nid yn unig canmolir y dyffryn hwn gan y Cymro gwladgarol, ond dyma yr hyn a ddywed Lord Lyttleton am dano: "Gyda gwraig serchog, cyfaill cywir, a chasgliad da o lyfrau, gallai un dreulio oes yn y dyffryn

  1. Giraldus Cambrensis.-R. Colt Hoare.