Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

Cefais lawer o gynhorthwy gan hen gyfeillion i gasglu hanes a thraddodiadau'r plwyf. Y mae eu nifer yn ormod imi allu eu henwi er cymaint y carwn wneuthur hynny.

Un o wendidau hanes lleol yw nad oes gobaith inni allu nodi'r ffynonellau, oherwydd casgliad yw o draddodiadau llafar yn fwy na dim arall. Elfennau prin yn fynych yw dogfennau a llyfrau y gellir dibynnu arnynt.

Dyledus wyf i Mr. Evan Davies, clerc Peniarth, am ei gynhorthwy i fynd drwy ddogfennau a gweithredoedd ystâd Peniarth. Derbyniais bob caredigrwydd gan ficer y plwyf, y Parch. Stephen Davies, i droi i lyfrau'r Eglwys a'r Festri. Cefais groeso bob tro y gelwais yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a phan ysgrifennais atynt. Ymgynghorais â rhai o'n llenorion a'n hysgolheigion a derbyniais gyfarwyddyd parod ganddynt. Cynorthwyodd y Parch. R. Rhys Hughes, ficer Glanogwen, i drefnu'r rhestr o offeiriaid ac athrawon y plwyf. Bu'r Parch. Henry Thomas, B.A., ficer Tywyn, yn barod i estyn help llaw pan alwn arno, a rhoddodd ganiatâd caredig gyhoeddi rhai o'r ysgrifau a ymddangosodd yn "Yr Haul."

Diolchaf i Dr. R. T. Jenkins am edrych dros yr hanes, a rhoddi llawer awgrym. Rhwymedig wyf i Mr. Richard Jones, B.A., Tywyn, am gywiro'r gwaith. Diolchaf i Dr. Iorwerth C. Peate am ei Ragair a llawer cyngor. Mi fy hun sy'n gyfrifol am bob gwall.

WILLIAM DAVIES.

Calan, 1948.