Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR

Teimlaf hi'n fraint ac yn anrhydedd i gael cyflwyno'r gwaith hwn i sylw'r cyhoedd. Darllenais ef gyda blas a budd, ac y mae'n sicr gennyf y rhydd darllenwyr Cymru groeso mawr iddo. Un o rinweddau'r Cymro yw ei frogarwch, ac amheuthun yw gweld gŵr fel Mr. William Davies, yn y llyfr hwn, yn rhoi ffurf sylweddol ar ei gariad tuag at ei fro trwy gasglu'r holl ffeithiau amdani a'u rhoddi inni ar glawr fel hyn. Y mae'r gwaith yn gyfraniad sylweddol at hanes Cymru.

Nid rhaid i awdur y gyfrol hon wrth unrhyw ganmoliaeth wenieithus. Fe berthyn, fel awdur Cwm Eithin gynt, i ddosbarth o werinwyr diwylliedig sy'n halen daear Cymru. Yn wir hebddynt, ni buasai Cymru o gwbl. Ynddynt hwy y cyfiawnheir pob ymdrech a wneir gan bawb ohonom i gadw yn fyw gymreictod a chymeriad arbennig ein cenedl. Hwy yw pendefigion ein diwylliant.

Petasai ym mhob ardal yng Nghymru un gŵr a wnâi gyffelyb gymwynas â'i fro, buasai'r gwaith garw ar hanes Bywyd Gwerin wedi'i gyflawni a gallem wedyn fentro'n eofn ar y synthesis sy'n angenrheidiol. Cymeradwyaf yr astudiaeth hon o eiddo Mr. Davies yn galonnog i sylw pob hanesydd lleol gan obeithio y ceir ynddi ysbrydoliaeth i lawer eraill. Ac o'm rhan i fy hun diolchaf iddo o lwyrfryd calon am ei egni a'i ddyfalbarhad, a'r defnydd a wnaeth o'i ddawn.

IORWERTH C. PEATE.

Calan, 1948.