Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymledaenu, nes ffurfio ei hun yn un o'r dyffrynoedd harddaf a pharadwyseiddiaf ac y sydd rhwng bryniau uchel Gwent a Morganwg. Ac ar lechwedd y bryniau hyn, ie, hyd yn nod ar eu penau hefyd, —gwelir tyddyn. dai heirdd a phalasau gorwychion, —yn cael en hamgylchynu a meusydd toraethog a ffrwythlawn. Tua mis Medi, swynir meddwl yr edrychydd yn fawr, wrth weled y medelwyr ar medelesau, yn gatrodau rheolaidd yn tori i lawr cynyreh y tir,—ac ar ben pob grwn yn yfed iechyd da i'r hwsmon—a rhad Daw ar y tir—yn ol defod ac arfer yr hên Wentwysiaid. Ac os try yr edrychydd ei lygaid at odreuon y glyn, cyferchir ef gany rhesyn, y tiwlyn, y lili, y myrtwydd, y box, a'r gwynwydd, nes peri iddo dori allan mewn hwyl nefolaidd gan daro tant ar yr hên bennillion a gyfansoddodd y bardd wrth weled ei gydgenedl, y Cymry, yn myned—mintai ar ol mintai, tua gwlad y Gorllewin, sef America:— {{center block| <poem> "Hoff genyf am hên wlad fy nhadau,— Ei gelltydd, ei bronydd a'i bryniau; A'r gweinwydd mwyn llon, addurnant ei bron, A'i heirddion wiw—lwysion balasau.

Y Cymro, er morio'r Amerig.— Dros donau i'r llanw pellenig, Hiraethu a wna—a'i galon fydd gla— Am Walia fwyneiddia fynyddig.

'E genir am randir yr India,— Gan ganmol dewisol wlad Asia; (Boed iddynt eu clod) mae trysor yn bod— Diddarfod dan waelod hên Walia.

Afon Sirhowy. Dywed yr enwog Drayton yn y Polyolbion[1]:— "Nid oes prin aber yn Morganwg na

Gwent nag ydyw yn dwyn ei thras at groth ffrwythlawn Brycheiniog."

  1. For almost not a brook in Morganwg or Gwent, But from her fruitful womb fetch her high descent.