Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Felly Afon Sirhowy, sydd yn tarddu allan o welyau tywod a chalchfaen Brycheiniog. Dechreua yr afon hon, sef Sirhowy, daenu ei gwely o fewn i dair milldir i Dredegar, sef wrth y lle a adnabyddir wrth yr enw Ffynon y Dug (Duke's Well). Er nad yw ond eiddil a gwanaidd yn nechreu ei thaith, fel braidd y dichon orchuddio hyd yn nod twmpath y wadd—na myned ychwaith dros gareg fechan heb ymddoleni o'i hamgylch wrth geisio gweithio ei ffordd ymlaen i'w thaith. Ond derbynia i'w mynwes lawer nant ar ei thaith, yn enwedig ffynon Sion Sieffrey, yr hon sydd yn arllwys ei ffrydiau iddi fel rheieidr nerthol. Ac ar ôl cyrhaedd Blaen y Cwm, ceir nentydd ereill yn talu eu teyrnged iddi yn awr â yn ei blaen fel cawres gan dorchi ei lewisau—a dangos ei breichiau gwynion, fel pe b'ai am roddi hèr i bob rhwystrau, a osodid ar ei ffordd, i'w lluddias ar ei thaith. Ar ol iddi fel hyn adnewyddu ei nherth, a theithio tua thair milldir o ffordd, dechreua weinyddu ei chymwynasau, trwy fwydo chwythbeirianau Gwaith Haiarn Sirhowy, ynghyda rhol—beirnianau a chwyth—beirnianau perthynol i Waith Haiarn Tredegar. Yna a yn ei blaen gan adnewyddu ei nherth o hyd. Mae'r afon 'nawr yn cael ychydig seibiant—yn dechreu canu un o'r peroriaethau melusaf, fel merch soniarus â llais toddedig, yn sio y baban i gysgu:— mae'r holl goedydd a'r llysiau yn talu parch iddi. Mae'r gwydd yn tyfu o amgylch ei thraed, y myrtwydd yn gwarogi yn ddistaw ger ei bron, y lili, er yn wylaidd, fel morwyn bur yn sirioli ac yn chwerthin arni; fel nas gall calon fawr, gynes, ac enynol y bardd na darfelyddion mwyaf cyfoethog eu crebwyll, osod allan mewn mawlgerdd y filfed ran o'i theilyngdod fel cyfrwng cynhaliaeth dros naw mil o drigolion. A gellir dywedyd am dani, mewn cysylltiad a'r Glyn—"Gwlad yr hon y mae ei cheryg yn haiarn." (Deuter. 8 b. 9 ad.) Mae afon Sirhowy wedi, ac yn bod, yn enwog am ei brythillod, fel y canodd rhyw hên brydydd o'r Glyn dribanau iddi—