Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mi dreuliais lawer d'wrnod,
Ar lan Sirhowy wiwglod,
I dynu cuau ar frigau'r fro,—
A thwyllo y brythilod."

Ar lan yr afon hon y ganwyd a magwyd yr enwog D. Rees Stephen—a rhwng ei chorlenydd meillionog y cyfansoddodd ei epistol cyntaf erioed, yn yr iaith Gymraeg, yr hwn sydd i'w weled y dydd heddyw yn "Seren Gomer," pan oedd o dan olygiad ein hanwyl, anwyl GOMER. Ar lan yr afon hon y treuliodd Mr. J. Jones, Gellygroes, bên ddisgybl i IOLO MORGANWG, ac Aneiryn Jones, ei fab. (Aneiryn Fardd) y rhan fwyaf o'u dyddiau. Hefyd y byth gofiadwy David James, Cwm Corwg (Dewi ap Iago), yn'ghyda'i frodyr, Ieuan ap Iago a Thomas ap Iago,—

A degau o lon—feirdd digoll,
A Brychan fad, eu tad hwynt oll.

O ie, bum bron ao anghofio yr hên Eiddil Gwent, yr hwn sydd wedi treulio y rhan fwyaf o'i ddyddiau ar lan Sirhowy. A meddyliwyf mai nid anmhriodol fyddai gosod y bardd Cynddelw yn rhestr beirdd Glyn Sirhowy, canys y mae ef wedi treulio llawer blwyddyn bellach yn Sirhowy, ac yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd yn nyfroedd tryloew yr afon hon.

Enw yr Afon.—Rhydd yr hên drigolion hanes digrif iawn am darddiad yr enw Sirhowy—a thyma fe, "Pan oedd y Cymry a'r Saeson mewn rhyfel a'u gilydd daeth y Cymry pan oeddynt ar eu hencil (retreat) hyd at Ffynon y Dug (Duke's Well) idd y dyben o ddibuddedu eu hunain, ac i dori eu syched. Ond pan welodd y Dug, eu Pencadben, y gelynion yn agoshau, gwaeddai allan, nerth ei ben, Pwy o honoch sydd yn barod i wynebu'r gelynion—wele hwynt yn d'od?' Ac atebai un o'r milwyr, Syr 'wy i,' un arall atebai Syr 'wy i,' nes iddi fyned yn Syr 'wy i' trwy yr holl fyddin. Y'mlaen a hwy, law a chalon yn erbyn y gelyn, gan ladd ar y de a'r aswy, nes oedd eu saethau yn cymylu'r awyr, ac enill y fuddugoliaeth yn llwyr ar