Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gelynion A mynodd y Dug, meddant hwy, alw yr afon yn Syr 'wy i' byth wedi byn. Er fod rhyw ddigrifwch i'w weled yn y traddodiad hwn o eiddo'r cyndrigolion—gwelir yn amlwg nad ydyw ddim namyn na ffugchwedl (romance).

Cynyg ar iawn ystyr i'r enw.—Meddyliwyf mai gair cyfansawdd yw Sirhowy, o sir, gwreiddyn y gair siriol, a gwy neu wy, sef hên air Cymraeg am ddwfr, neu ddyfroedd. Felly ystyr y gair yw siriolddw'r, neu ddyfroedd dymunol i sirioli'r meddwl. Felly ceidw yr afon yr enw priodol hwn iddi ei hun hyd nes y llyncir hi i fyny gan yr afon Ebw. Ond saif Glyn Sirhowy yn gof golofn o'i henw tra tywyno haul ar fryniau Gwalia hên. Wel, hwyrach y cwynir arnaf am ymdroi fel hyn cyn dyfod at fy nhestyn; ond, meddyliwyf fod cysylltiad anwahanadwy rhwng y Glyn—a'r Afon—a Hanes Dechreuad a Chynnydd Gwaith Haiarn Tredegar. Hefyd, barnwyf byddai rhoi hanes noeth am Weithfa Haiarn Tredegar, heb fyned yn amgylchiadol i'r testyn, ond hanesyn sychlyd ac annyddorol dros ben

PENNOD III—TREDEGAR.

Tredegar sydd dref boblogaidd iawn, yn cynhwys 9.776 o drigolion. Ei phellder o Lundain yw 156, trwy y Feni; o Gaerdydd, 32; o'r Feni, 12; Gasnewydd, 24; ac o Ferthyr 8 o milldiroedd. Cafodd Tredegar ei henw oddiwrth Tredegar Fawr, sef enw y palas neu drigle yr hên Forganiaid, y rhai oeddynt ddisgynyddion o Cadifor Mawr, ap Collwyn;—a pherchenogion y tir lle saif Tredegar arno. Rhoddir llawer iawn o ystyrion i'r gair Tredegar. Y mysg eraill geilw rhai ef Tri—deg—erw, a mynant, er bodd ac anfodd, mai dyna yw'r iawn ystyr o'r enw. Ond pan ystyriom mai yr hên air Cymraeg am Ddaear nea Daear, yw Ar, ac os digymalwn y gair Tredegar—fel hyn, Tre Deg Ar, gwelwn yn amlwg mai iawn ystyr yr enw yw Tre—daear—deg. Mae llawer iawn o balasai yr hên fone—