Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Plwyf O.C. Plwyf O.C.
1 Llanerchymedd (rhan) 406 9 Rhosbeirio .
2 Llandyfrydog 501 10 Llanwenllwyfo .
3 Llanfihangel Tre'r Beirdd . 11 Penrhosllugwy .
4 Llaneugrad.. . 18 Ceidio .
5 Llanallgo . 18 Gwredog .
6 Bodewryd . 14 Llaneilian .
7 Llanbeulan (rhan) . 15 Amlwch .
8 Coedana . . . .


PLWYF LLANFIHANGEL TRE'R BEIRDD.

Saif y plwyf hwn oddeutu pedair milldir i'r de-orllewin o Lanerchymedd. Gwel Sylw ar Tre'r Beirdd

PLWYF LLANERCHYMEDD.

Saif tref Llanerchymedd gan mwyaf yn mhlwyf Amlwch; ond y mae rhanau o honi yn Llanbeulan, Llechgynfarwydd, a Ceidio, yn nghymydau Menai, Llifon, a Thwrcelyn. Y mae dwy ran o dair o honi yn mhlwyf Amlwch. Ymddengys fod cynydd y dref hon i'w briodoli i'r ffaith ei bod yn sefyll yn nghanolbarth y wlad.

Cyn dechreuad y rhyfel gartrefol (parliamentary war) yn amser Charles II., yr oedd y lle yma wedi dyfod yn bur boblogaidd; ac, fel y cyfryw y gosodwyd ef allan mewn deiseb, am gael sefydlu marchnad yn y lle. Yn ystod llywodraethiad Cromwell y chaniatawyd hyny i'r brodorion gan y Llywodraethwr Cromwell: a chadarnhawyd y peth drachefn gan Charles II. yn y fl. 1665. Gyda'r eithriad o Beaumaris, hon oedd yr unig farchnad yn yr holl ynys; yr hyn a fu yn brif achos llwyddiant y dref hyd y fl. 1785, pan sefydlwyd marchnad-le yn Llangefni; yr hwn sydd yn sefyll yn fwy eto yn nghanolbarth y wlad.

Adeiladwyd eglwys Llanerchymedd gan Tegerin, un o arglwyddi Twroelyn, a mab Carwad Fawr, un o hynafiaid teulu Llwydiarth. Dywed Phillip, Sons, and Nephew, (Agents for the Admiralty Charts, and Ord-