Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nance Maps,) fod yr eglwys hon wedi ei hadeiladu yn y fl. 408. Os ydyw hyn yn wirionedd, y mae yn un o'r eglwysi hynaf yn Môn. Cysegrwyd hi i St. Mair; yr ystyr yw, "Llan-y-chwerwder." Y fywioliaeth eglwysig sydd guradiaeth mewn cysylltiad a pherigloriaeth Llanbeulan: y mae dau le wedi eu neillduo at fywioliaeth yr eglwys hon, sef Llain Fair, a Chaeau Mair. Cedwir yr eglwys mewn trefn dda, gan deulu Llwydiarth a Bodelwyddan, heb gynorthwy trigolion y lle.

Adeiladwyd Ysgol Genedlaethol yma yn y fl. 1824, yr hon a gynwysai ddau gant o blant-perthynol i blwyfydd Llanerchymedd, Coedana, a Ceidio; cynhelir hi mewn rhan gan roddion gwirfoddol. Adeiladwyd Ysgol Frytanaidd yma hefyd oddeutu y fl. 1863, yr hon sydd yn adeilad eang a hardd.

Enw Llanerchymedd.—Yr enw cyntaf sydd genym hanes am dano arni ydoedd, Clochran"; tybir iddo darddu oddiwrth fod clochdy yr eglwys yn sefyll ar ran o dri, os nad pedwar, o blwyfydd: fel y mae tŷ Mr. T. Parry (Llanerchydd). O berthynas i'w enw presenol, y mae gwahanol farnau: dywed rhai, y byddai y derwyddon yn addoli Gwyn ap Medd, arglwydd y wlad obry, a brenin y tylwyth teg; a bernir mai yr un ydoedd a Pluto y Groegiaid, a thybia rhai iddo darddu oddiwrth y duw hwn. Myn eraill iddo darddu oddiwrth "Medd," enw ar ddiod a dynir o fel; a dywedir fod y pentref hwn wedi bod yn enwog mewn masnach yn y diodydd hyn; ac am y rheswm yma y galwyd y lle yn Llanerchymedd. Os dyma wir darddiad yr enw, yr ystyr yw "Llan-ybendro !" oblegyd ystyr y gair medd yw pendro.

Gelwir y diodydd a dynir o fêl yn fedd, neu medd, am