96
Hanes ac ystyr Enwau
eu bod yn meddwi dynion : pobpeth sydd yn meddwi, medd ydyw . Cyfieithir ef yn y “ Cambrian Register" “ The Plat of the Methaglin ." Tybia eraill drachefa, fod yma wledd fawr wedi ei chynal gan Caswallon, er
llawenydd am fuddugoliaeth a gafwyd ar Cæsar, pan orfu iddo encilio eilwaith i Gaul. Yr oedd y wledd hon
yn cael ei chynal fel diolchgarwch i'r duwiau am eu gwaredu oddiwrth y Rhufeiniaid . Yn ystod y wledd chwareuid amrywiol gampau , yn ol arferiad ein hynaf.
7
iaid : y pryd hyn dygwyddodd i ddau bendefig ieuanc
fyned i ymdrechu a'u gilydd. Un oedd Cyhelyn, nai Afarwg, a'r llall oedd Hirlas, nai Caswallon : mewn
canlyniad i'r ymdrechfa chwareuol hon, hwy a aethant i ymgynhenu ; a Chyhelyn a laddodd Hirlas a'r cleddyf -ac, yn gofadwriaeth am y wledd feddwol hon, galwyd y lle - Llanerchymedd. Y mae lle yn y dref wedi cael ei alw oddiwrth y Cyhelyn hwn yn “Dwr Celyn," yn briodol Twr Cyhelyn ; ac heb fod yn mhell o'r pen.
tref, mae lle o'r enw “ Pwll Cynan ” —lle yr ymgynhen.
$4
odd y ddau bendefig crybwylledig. Y mae lle arall yn
agos i Gaergybi wedi derbyn ei enw oddiwrth yr un person, sef Pen Cyholyn ; dywed rhai mai oddiwrth y
Cyhelyn hwn y tarddodd y gair Holyhead ; enw y lle oedd Pen Cyhelyn , a thrwy lygriad , galwyd ef yn Pen Celyn
( ac felly Twrcelyn ). Cyfieithid ef weithiau Hollyhead, pryd arall Holyhead : ond y gwir enw yw “ Cyhelyn's Head . "
Twrcelyn sydd wedi bod yn drigfa pur hynafol ; ceir fod Caw ap Geraint ap Erbin, arglwydd Cum Cawlyd, yn nghyd a'i deulu, yn trigo yma, oddeutu у chweched
ganrif - y pryd y gyrwyd ef a'i deulu , gan y Pictiaid, allan o'u hetifeddiaeth , yn agos i Scotland . Rhoddodd
5