Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Maelgwyn Gwynedd dir iddynt yn Ngwynedd; a chawsant dir gan y brenin Arthur, yn Ngwent. Caw, wedi dyfod i Gymru, a breswyliodd yn Twrcelyn; ond, rhai o’i deulu a aethant i Gwent, lle yr oedd Arthur wedi rhoddi tir iddynt.

Yr oedd rhai o blant Caw yn rhyfelwyr; eithr y rhan fwyaf o honynt a gyflwynasant eu hunain i waith y weinidogaeth, ac a fuont yn offerynau i blanu eglwysi yn Nghymru. Bu Twrcelyn yn drigfa beirdd enwog ers canrifoedd lawer. Yma yr oedd cartref Gildas, neu Aneurin, fel y tybir, yr hwn a gyfansoddodd y gân odidog a elwir y "Gododin"—cân brad y "cyllill hirion" yn Stonehenge. Gwel Davies's Myth. tudal. 318. Yr oedd Cyhelyn mab Caw yn fardd enwog yn ei ddydd, ac yn bur wahanol yn ei farn oddiwrth feirdd yr oes hono yn gyffredin. Ymddengys oddiwrth ei waith sydd eto mewn bod, nad oedd ganddo un parch i dduwiesau y derwyddon; ac yr oedd yn ystyried yr arferiad ag oedd gan y beirdd o anerch Ceridwen, fel ffynnon dysgeidiaeth, yn anaddas i gristion, &c.

Dinystriwyd yr hen dŵr gan ŵr y Llwydiarth, yn y fl. 1777.

Llwydiarth.—Tardda yr enw oddiwrth Arth lwyd— Gwelir ar arfbais Llwydiarth, yn Eglwys Amlwch, ddarlun o Arth-lwyd, a saeth yn ei phen.

Cyfieithir arwyddair y lle hwn—"Vivit post funera Virtus" fel hyn:"Rhinwedd uwch y bedd fydd byw." Dywedir fod hen deulu Llwydiarth yn achlesu beirdd ers yn agos i 400 mlynedd—pa faint bynag cyn hyny. Yn un o ysgrif-lyfrau Lewys Morrus o Fon, ceir yr hanes, y byddai Robyn Ddu yn fawr ei fri yn Llwydiarth; a