phan oedd efe yna un tro ar giniaw, efe a ddywedodd Ab, ab fe syrthiodd y "Maenaddfwyn ?" "Cymer farch danat a dos, a myn wybod a'i gwir a ddywedodd Robyn, ebai gwr y tŷ wrth y gwas. Pan ddychwelodd, gofynwyd iddo, "A syrthiodd y maen ?" "Do," ebai y gwas "Do; gan wiried a bod y march a fu dan y llanc, wedi marw yn yr aman:" ebai Robyn. Awd i'r aman, a chafwyd ef yn farw. Y mae Llanerchymedd hyd heddyw yn enwog iawn am feibion yr Awen. Yma y mae cartref Galchmai, Llanerchydd, Meilir, Tegerin, Meilir Môn, &c.
PLWYF LLANDYFRYDOG.
Saif y plwyf hwn oddeutu tair milldir i'r gogleddddwyrain o Lanerchymedd-tardda enw y plwyf oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Tyfrydog, ap Arwystl Gloff; a Dyf ferch Amlalawdd Wledig ei fam. Cysegrwyd hi yn y chweched ganrif."
Lleidr Dyfrydog.—Enw ar faen mawr ac uchel, oddeutu milldir o'r pentref. Tardda yr enw, yn ol traddodiad sydd ar lafar gwlad, oddiwrth fod dyn wedi dwyn Beibl o'r eglwys, ac iddo ei gario ar ei ysgwydd hyd y fan hon; ac iddo syrthio yn y fan yma oddiar ei ysgwydd; ac fod y lleidr wedi cael ei daro a barn, a'i wneud yn golofn gareg yn ebrwydd.
Dyma benillion a glywais eu hadrodd gan yr awdwr yn Eisteddfod Llanerchymedd:
TUCHANGERDD "LLEIDR DYFRYDOG."
Buddugol yn Eisteddfod Gadeiriol Môn, Awst, 1871.
Rhyw noson oer Glan-Gauaf, wrth oleu ffiamau 'r tân,
Fy nhaid eisteddai'n ddedwydd, gan fygu pibell lan:
Y gwynt oedd gryf chwibanog, a'r gwlaw yn dod i lawr,
Gan wneyd taranau erchyll, o fewn i'r simneu fawr;